Beth sydd angen i mi ei gyflwyno fel tystiolaeth ariannol?

Os ydych yn derbyn cyllid allanol yna bydd angen i ni weld cadarnhad o'ch ysgoloriaeth neu nawdd. Os ydych am fod yn derbyn cyllid gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yna bydd angen i ni weld cadarnhad ganddynt fod eich benthyciad yn ei le.

I gadarnhau ysgoloriaeth neu nawdd cyflogwr, rhaid i chi ddarparu copi o'r llythyr cymeradwyo nawdd yn cadarnhau manylion y noddwr a swm(au) nawdd.

Ni ellir ystyried bondiau nad ydynt yn aeddfedu tan ar ôl i'r cwrs ddechrau. Nid yw gweithredoedd eiddo yn ddigonol gan nad ydynt yn asedau hylifol.

Sylwch fod gan yr UKVI ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sydd angen Fisa Myfyriwr. Gweler https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/pg-studies/faqs/fundingfeesfaqs/faqf4/ am fanylion pellach.