Pryd ddylwn i wneud cais?

Gall Prifysgol Aberystwyth dderbyn ceisiadau am astudiaethau uwchraddedig drwy gydol y flwyddyn, cyn belled â bod ymgeiswyr yn bodloni’r gofynion mynediad cyhoeddedig ar gyfer eu dewis gynllun, a bod lleoedd ar gael o hyd.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni ymchwil geisio gwneud eu ceisiadau cyn gynted â phosibl, a bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn gwneud eu ceisiadau yn y cyfnod rhwng Tachwedd ac Ionawr.

Dylid derbyn ceisiadau am astudiaethau uwchraddedig a addysgir gan ymgeiswyr Rhyngwladol o leiaf dri mis cyn i'r cwrs ddechrau, fel bod digon o amser i gwblhau'r prosesau derbyn a fisa angenrheidiol.

Os ydych yn bwriadu gwneud cais am ffynhonnell benodol o gyllid neu ysgoloriaeth, cofiwch y bydd terfynau amser yn berthnasol. Mae angen i chi dalu sylw arbennig i'r terfynau amser hyn, oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen i chi fod yn dal cynnig cyn y gallwch wneud cais am gyllid. Gweler ein Cyfrifiannell am gyfleoedd ariannu posibl.

Dylid gwneud ceisiadau Dysgu o Bell o leiaf ddau fis cyn i'r cwrs ddech.