Cymhwyster Academaidd - Matriciwleiddio

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ôl-raddedig, ac eithrio'r rhai sydd eisoes yn raddedigion o Brifysgol Aberystwyth, fatriciwleiddio cyn y gellir eu derbyn ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. Er mwyn matriciwleiddio rhaid i ymgeiswyr: 

a) bod â gradd israddedig (lefel Baglor o leiaf) neu ôl-raddedig o sefydliad a gydnabyddir gan Brifysgol Aberystwyth Ecctis/UK ENIC. UK ENIC yw Canolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU ar gyfer cymwysterau a sgiliau byd-eang. 

neu 

b) gallu dangos o leiaf 24 mis o brofiad gwaith proffesiynol amser llawn er mwyn matricwleiddio ar y sail honno. mae matriciwleiddio ar sail profiad blaenorol ar gael i ymgeiswyr Meistr, ond nid y rhai sy'n ceisio mynediad i astudiaethau PhD. 

Sylwch na fydd ymgeiswyr, a allai fatricwleiddio â Phrifysgol Aberystwyth o reidrwydd, yn meddu ar gymhwyster sy'n bodloni gofynion mynediad academaidd penodol eu dewis gwrs.