Beth yw copi Ardystiedig?

Copi ardystiedig yw copi o'ch tystysgrif(au) gradd neu drawsgrifiad(au) gradd sydd wedi'i stampio gyda sêl swyddogol y brifysgol sydd wedi dyfarnu'r radd. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu copïau ardystiedig fel rhan o'ch cais.  Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu'r rhain yn ystod y broses ymgeisio.  Os gofynnir am gopïau ardystiedig, ac na allwch eu darparu, gallwn, mewn rhai achosion, ystyried copïau sydd wedi'u hardystio gan Notari Cyhoeddus neu'r Cyngor Prydeinig.