Creu Cynllun Rheoli Data (CRhD)

(dolenni allanol yn Saesneg yn unig)

Mae cyllidwyr ymchwil yn nodi’n fwyfwy aml fod yn rhaid i ddeiliaid grantiau ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Rheoli a Rhannu Data yn rhan o’u ceisiadau. Mae paratoi cynllun rheoli data yn ffordd dda o nodi pa adnoddau sydd eu hangen er mwyn rheoli’r data, ac mae llawer o gyllidwyr yn caniatáu i chi gynnwys costau sy’n gysylltiedig â rheoli data ymchwil mewn ceisiadau am grantiau.

Mae Polisi Rheoli Data Ymchwil Prifysgol Aberystwyth‌ yn disgwyl i gynlluniau rheoli data gael eu hysgrifennu ar gyfer pob prosiect ymchwil newydd, p’un a oes raid cyflwyno cynlluniau o’r fath wrth wneud cais am gyllid ymchwil ai peidio. Argymhellir eich bod yn defnyddio DMPOnline y Ganolfan Curadu Digidol (DCC) i greu’r cynllun.

Mae DMPOnline yn darparu templedi ar gyfer Cynlluniau Rheoli/ Rhannu Data/ Cynlluniau Technegol yr holl brif gyllidwyr ynghyd â thempled generig lle na ddefnyddir pro-forma penodol. Gellir allforio cynlluniau ar ffurf PDF i’w hatodi i geisiadau o fewn systemau cyflwyno electronig megis J-eS, ac i’w cynnwys fel atodiad gyda’r ‘ffurflen binc’ a gyflwynir yn fewnol (sydd bellach yn ofyniad penodol).

Bydd y Cynllun Rheoli Data fel arfer yn nodi pa ddata fydd yn cael ei greu a sut, ac yn amlinellu’r cynlluniau ar gyfer rhannu a chadw, gan nodi’r hyn sy’n briodol o ystyried natur y data ac unrhyw gyfyngiadau y gallai fod angen eu pennu. Mae rhestr wirio gyffredinol ar gyfer cynnwys y Cynllun Rheoli Data ar gael o’r Ganolfan Curadu Digidol.

Prifysgol Aberystwyth Templed Cynllun Rheoli Data (Yn Saesneg yr unig)