Moeseg

(dolenni allanol yn Saesneg yn unig)

Mae’n bosib rhannu llawer o ddata ymchwil – hyd yn oed data sensitif – mewn modd moesegol a chyfreithlon os bydd ymchwilwyr yn arfer strategaethau cydsynio ar sail gwybodaeth, cofnodi di-enw a rheoli mynediad i ddata.

Os ydych yn gwneud gwaith ymchwil, yn enwedig ymchwil y mae pobl yn cymryd rhan ynddo, rhaid gofyn yn y ffurflenni cydsynio am ganiatâd i rannu’r data a’i ailddefnyddio. Dylid disgrifio’r fethodoleg ar gyfer sicrhau bod y data’n ddienw cyn ei rannu yn unrhyw wybodaeth atodol ynglŷn â chymryd rhan.

 

Cydsynio

Mae cydsynio ar sail gwybodaeth yn ofyniad moesegol pwysig yn y rhan fwyaf o brosiectau ymchwil a rhaid ei ystyried a’i weithredu drwy gydol oes y prosiect, o’r cyfnod cynllunio i’r gwaith lledaenu. 

Wrth ofyn am gydsyniad ar lafar neu’n ysgrifenedig, dylai gynnwys darpariaeth ar gyfer rhannu data, megis pa ddata a gesglir, y ffiniau ar gyfer sut y caiff y data ei ddefnyddio a hawl y sawl sy’n cymryd rhan i dynnu’n ôl.

Bydd methu ag ymdrin yn briodol ac yn llawn â materion yn ymwneud â chydsynio ar sail gwybodaeth nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio’r data yn y lle cyntaf, cyhoeddi eich canlyniadau a rhannu data ond bydd hefyd yn effeithio ar statws moesegol eich ymchwil arfaethedig.

Mae canllawiau ar gael ar dudalen 'Consent' Gwasanaeth Data’r DU.

 

Sicrhau bod data ymchwil yn ddienw

Mae’n rhaid parchu cyfrinachedd y wybodaeth a ddarperir gan y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil a sicrhau eu bod yn aros yn ddienw. Er hynny, mae modd dileu ‘manylion adnabod uniongyrchol’ (enwau; cyfeiriadau; manylion cyswllt; delweddau) o’r data cyn ei rannu a gellir cyfuno ‘manylion adnabod anuniongyrchol’ (nodweddion personol; gweithle; galwedigaeth).

Mae canllawiau ar gael ar dudalen 'Anonymisation' Gwasanaeth Data’r DU.

 

Rheoli mynediad i’r data

Mae’n bwysig cydnabod y gall hyd yn oed data sensitif a chyfrinachol gael ei rannu at ddibenion ymchwil. Mae modd rheoli mynediad i ddata o’r fath drwy osod cyfyngiadau (h.y. gosod embargo neu fynediad i ymchwilwyr penodol) ond mae’n bwysig nodi hyn yn y camau cynnar, er enghraifft: yn eich Cynllun Rheoli Data, mewn ceisiadau am gymeradwyaeth foesegol ac yn sicr cyn dechrau casglu’r data.

I gael rhagor o fanylion, gweler canllawiau Gwasanaeth Data’r DU ar ei dudalennau 'Legal and ethical issues'.

 

Sut i gael cymeradwyaeth foesegol:

Mae canllawiau Prifysgol Aberystwyth, cymorth a manylion ynglŷn â’r broses asesu ac ymgeisio ar gael yma. Mae'n bwysig nodi na fydd cael cymeradwyaeth foesegol ar ben ei hun yn bodloni gofynion rheolaeth data - rhaid i chi sicrhau bod materion o ganiatâd, anhysbysrwydd a chyrchu wedi'u hystyried yn eich cynllun rheoli data a chyn casglu unrhyw ddata.