Amodau Archebu Lle Campau ar y Campws
Ffioedd a Gostngiadau Campau'r Campws
Statws | Pris | Cyfradd Gostyngiad | Amodau |
---|---|---|---|
Aelod | £125.00 | 10% | 2 neu fwy o blant o'r rhu'n teulu |
Di-Aelod | £135.00 | 10% | 2 neu fwy o blant o'r rhu'n teulu |
Telerau ac Amodau
1. Taliad
Mae yna opsiynau i'w talu naill ai gydag arian parod, siec, cerdyn credyd neu ddebyd uniongyrchol. I sicrhau lle eich plentyn ar Gampau'r Campws, talwch y swm llawn, neu dychwelwch y ffurflen ddebyd uniongyrchol pan ddychwelwch y ffurflen archebu. Fel arall, rhaid talu'n llawn 10 diwrnod cyn dyddiad dechrau'r cwrs.
2. Canslo
Yn yr achos o ganslo, rhoddir ad-daliad o 50% ar yr amod ein bod yn cael ein hysbysu'n ysgrifenedig o leiaf 3 wythnos cyn dechrau'r Wythnos Chwaraeon. Nid oes ad-daliad ar gael wedi hynny.
3. Yswiriant
Er ein bod yn cymryd gofal mawr i sicrhau diogelwch pob plentyn ni allwn dderbyn atebolrwydd am unrhyw anaf personol neu golli eiddo, neu ddifrod i eiddo, sut bynnag a achosir. Dylai cyfranogwyr wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer yswiriant anafiadau personol ac effeithiau os ydych yn dymuno gwneud hynny.
4. Atebolrwydd
Os bydd archebion yn cael eu canslo gennym ni, bydd yr holl arian a dderbynnir yn cael ei ddychwelyd, ond ni fyddwn dan unrhyw atebolrwydd o gwbl. Os bydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth e.e. rhyfel, bygythiad rhyfel, trychineb naturiol, aflonyddwch sifil, anghydfodau diwydiannol, problemau technegol neu dywydd gwael, rydym yn cadw'r hawl i addasu neu newid trefniadau heb ein gwneud ein hunain yn atebol.
5. Ymddygiad
Disgwyliwn i bob plentyn ymddwyn mewn modd sydd yn ysbryd y cwrs, a sicrhau mwynhad cyffredinol pawb yn ystod yr wythnos. Oni bai am hyn, rydym yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw blentyn ar unrhyw adeg cyn ac yn ystod yr Wythnos Chwaraeon.