Canlyniadau Arholiadau Cynlluniau Meistr trwy Gwrs

Marciau Modiwlau

Hysbysir holl fyfyrwyr o’u marciau drwy eu cofnod myfyriwr ar y we ar ôl i Bwrdd Arholi’r Senedd eu gymeradwyo.

RHAID CYFLWYNO Y TRAETHAWD HIR ERBYN DYDD GWENER DIWETHAF YN MIS MEDI. Tua 12 mis ar ôl dechrau'r cwrs. Mae’n bwysig i fyfyrwyr ymgynghori â’u hadrannau ar gyfer cyflwyno’r traethawd hir.

Dylai myfyrwyr nad ydynt yn dymuno parhau i wneud y traethawd hir ond am adael â Diploma neu Thystysgrif ymgynghori a’u hadran cyn llenwi Ffurflen Hysbysu o'r Bwriad i Ymadael Cwrs Meistr.

Gelli’r ailsefyll modiwl a fethir er mwyn llwyddo gyda marc o 50%. Rhaid i bob fyfyriwr gofrestru i ailsefyll fodiwl trwy eu Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl ymgynghori â’u hadrannau.  Gelli’r gysylltu â’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion pgsstaff@aber.ac.uk gyda ymholiadau. Mae Confensiynau Arholiadau ar gael ar y we yma.

Rhaid i fyfyrwyr dalu holl ffioedd angenrheidiol a gwneud yn siwr nad oes ganddynt ddyledion heb eu dalu.


Mae yn bwysig bod myfyrwyr yn troi at eu e-bost yn rheolaidd gan bod y Brifysgol yn defnyddio'r e-bost i gysylltu a rhan fwyaf o fyfyrwyr.  Mae hefyd yn bwysig i fyfyrwyr wneud yn siŵr bod eu cyfeiriad e-bost personol, rhif ffon a cyfeiriad cartref yn gywir ar eu Cofnod Myfyriwr oherwydd mae'n bosib bydd angen i ni cysylltu a myfyrwyr neu ddanfon gwybodaeth pwysig ynglŷn a canlyniadau neu Graddio. Os oes angen i chi gysylltu a'r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ynglŷn a manylion eich Cofnod Myfyriwr dylech ddanfon e-bost at pgsstaff@aber.ac.uk .

Os oes angen i fyfyrwyr gysylltu a ni ynglyn a Graddio dylech dabfon e-bost at gaostaff@aber.ac.uk neu efaillai byddai wefan Graddio o help.