Newid Cynllun Astudio neu Fodiwl
Os ydych am newid unrhyw ran o'ch cynllun astudio - modiwl, gradd, neu gyfadran - rhaid ichi roi gwybod ar unwaith trwy lenwi Ffurflen Newid Cofrestriad. Cewch hon gan:
- fynd at eich Cofnod Myfyriwr ar y we.
- eich Adran(nau)
- Swyddfa'r Deoniaid, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais.
- y Swyddfa Academiaidd, yr Hen Goleg.
Pwysig
Os i chi fethu â gwneud hyn efallai y trefnir eich asesu yn y modiwlau anghywir, ac wedyn ni fyddwch yn medru gorffen eich astudiaethau mewn un sesiwn.
Ar ôl cael pob llofnod angenrheidol, cofiwch lofnodi'r ffuflen eich hun a rhoi'r dyddiad arni. Wedyn dychwelwch y ffurflen i Swyddfa'r Deoniaid neu i'r Swyddfa Academaidd.
Bydd angen cael llofnod y Deon ar y ffuflen am unrhyw un o'r newidiadau isod:
- Unrhyw newid i'ch cynllun astudio ar ôl 4 wythnos wedi cychwyn y sesiwn.
- unrhyw newid modiwl ar ôl 4 wythnos wedi cychwyn semester ar gyfer myfyrwyr Rhan Un.
- unrhyw newid modiwl ar ôl 3 wythnos wedi cychwyn semester ar gyfer myfyrwir Rhan Dau.