Ailsefyll yn Fewnol
Mae myfyrwyr Rhan Dau sydd wedi llwyddo i fynd i'r flwyddyn nesaf o'r cwrs ond yn cario methiant o'r sesiwn ddiwethaf yn cael cyfle i adfer eu methiant wrth gofrestru i ailsefyll yn fewnol y sesiwn ddilynol, os oes ganddynt raddau 'F', 'A', 'H', neu 'S'('B', 'E', 'H', a 'W' i myfyrwyr HND). Dylid bwrw golwg ar safle we y Brifysgol am wybodaeth bellach ynglyn ag arholiadau ac ystyr y graddaugwahanol. Bydd eich adrannau yn gallu rhoi cyngor ynglyn â pha fodiwlau y dylai myfyrwyr eu hailsefyll. Mae'n bwysig bod pob myfyriwr yn cysylltu gyda'r adrannau priodol ynglyna gofynion yr asesiad(au).
I gofrestru ar gyfer Ailsefyll yn Fewnol;
Rhaid i fyfyrwyr gofrestru wrth un o ddwy ffordd, naill ai drwy’r system ar-lein Cofrestru Ailsefyll yn Fewnol sydd ar gael ar eich cofnod ar y we yn ystod mis Hydref neu drwy gwblhau ffurflen Ailsefyll yn Fewnol sydd ar gael oddi wrth y Swyddfa Academaidd (ugfstaff@aber.ac.uk). Bydd angen i bob cofrestriad i ailsefyll gael ei gymeradwyo gan y yr adran briodol. Rhaid i bawb cofrestru erbyn 31 Hydref. Os nad ydych yn cofrestru i ailsefyll modiwlau ni fydd unrhyw farc(iau) a enillwch yn ymddangos ar eich cofnod ac ni fydd(ant) yn cyfrif at eich gradd derfynol. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn a'ch cofrestriad gellir e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk.
I dynnu allan o ailsefyll modiwl;
Os cofrestrwch i ailsefyll modiwl, a phenderfynu wedyn peidio ag ailsefyll am ba reswm bynnag (er enghraifft, oherwydd cyngor gan eich adran) rhaid ichi dynnu allan erbyn 15 Tachwedd (ar gyfer semester 1) a 15 Mawrth (ar gyfer semester 2). Os na thynnwch allan, byddwch yn dal yn agored i dalu ffi ailsefyll, a bydd eich cofnod yn dangos ichi ailsefyll a methu. (Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych heb fynd i'r arholiad neu heb gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar gyfer y modiwl dan sylw). Sylwch mai'r marc uchaf a gawsoch yn y modiwl sy'n cyfri at eich gradd.
Er mwyn tynnu allan rhaid ichi e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk gan roi eich manylion myfyriwr a manylion y modiwl rydych yn tynnu allan ohono.
Mae ffioedd Ailsefyll yn Fewnol yr un fath â ffioedd ailsefyll yn Awst sydd ar gael yma.