Ffioedd Ailsefyll

Codir ffi ailsefyll ar gyfer fyfyrwyr Israddedig yn Rhan 1 sydd â graddau ‘A’, ‘R’ ac ‘C’ ('B', 'E', 'L' a 'W' myfyrwyr HND); ac ar fyfyrwyr sy’n ailsefyll yn Rhan 2 sydd â graddau ‘A’ ac ‘F’. Fel arfer ni chodir ffi ar fyfyrwyr Rhan 1 sydd â’r arwydd ‘M’, na myfyrwyr Rhan 2 sydd â’r arwydd ‘H’ ac ‘S’.

Ffioedd am fodiwlau a fethwyd yn 2012/2013:

  • 10 credyd - £55

  • 20 credyd - £80

  • 30 credyd - £105

  • 40 credyd neu ragor - £125

Cewch anfoneb gan Swyddfa Ffioedd y Brifysgol ar gyfer ffioedd ailsefyll.  Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch a a'r Swyddfa Ffioedd drwy'r e-bost ffioedd@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621583.