Cwestiynau cyffredin
- Faint yw’r ffioedd dysgu newydd?
£9,250 fydd y ffi rheoledig uchaf, os bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo’n derfynol ym mis Ebrill. Dyma'r tro cyntaf i’r ffioedd dysgu gynyddu ers 2011.
- Pwy fydd newidiadau Llywodraeth Cymru i’r cap ffioedd dysgu yn effeithio arnynt?
Bydd y newid arfaethedig yn effeithio ar fyfyrwyr amser llawn sy'n byw yn y DU a dinasyddion yr Iwerddon ym mhob blwyddyn astudio israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
- Pryd fydd y cap newydd ar ffioedd dysgu yn dod i rym?
Bydd y myfyrwyr perthnasol yn dechrau talu'r ffioedd arfaethedig ar y cap ffioedd dysgu newydd o’r flwyddyn academaidd 2024/25 ymlaen.
- Pam mae’r ffioedd dysgu yn cynyddu?
Wrth i Lywodraeth Cymru gynyddu’r cap, dywedodd iddi wneud hynny er mwyn darparu cyllid ychwanegol i brifysgolion yng Nghymru, er mwyn helpu i ddiogelu’r ddarpariaeth a’r buddsoddiad ym mhrofiad y myfyrwyr.
- Rwy'n dod o Weriniaeth Iwerddon. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
Sylwer y bydd dinasyddion yr Iwerddon yn dal i fod ar dir i gael statws ffioedd cartref a chymorth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin. Byddant yn ddarostyngedig i'r cap ffioedd dysgu newydd lle bo hynny'n berthnasol.
- Myfyriwr Rhyngwladol ydw i. Sut mae'r newidiadau yn effeithio arna i?
Ni fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ar ffioedd dysgu yn effeithio ar hyn mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei dalu o gwbl.
- Rydw i ar flwyddyn gyfnewid. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
Byddwn yn dal i ofyn am 15% o'r ffi uchaf a reoleiddir.
- Rydw i ar flwyddyn dramor. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
Byddwn yn dal i ofyn am 15% o'r ffi uchaf a reoleiddir.
- Rydw i ar leoliad gwaith am flwyddyn. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
Byddwn yn dal i ofyn am 20% o'r ffi uchaf a reoleiddir.
- Myfyriwr rhan-amser ydw i, sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ffioedd i?
Byddwn yn dal i ofyn am 50% o’r ffi uchaf a reoleiddir.
- Rydw i ar gwrs dysgu o bell. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?
Ni fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ar ffioedd dysgu yn effeithio ar hyn a dalwch o gwbl.
- Rwyf wedi gohirio dechrau yn y brifysgol. Pa ffi y byddaf i yn ei thalu?
Byddwn yn cyhoeddi’r ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 yng ngwanwyn 2025 a bydd angen i chi dalu’r swm sy’n berthnasol ar yr adeg honno.
- A fyddaf yn gallu cymryd lefel uwch o fenthyciad i fyfyrwyr er mwyn talu am y newid mewn ffioedd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cap ar fenthyciad ffioedd dysgu i £9,250 ar gyfer myfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n astudio yma. Os caiff y cynnydd yn y cap ffioedd dysgu ei gymeradwyo yn y pen draw, bydd porth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cael ei ddiweddaru i £9,250 yn sgil hynny. Os ydych wedi gwneud cais i fenthyca'r swm llawn i dalu am eich ffi, bydd y swm hwnnw'n cael ei gynyddu'n awtomatig i £9,250. Y myfyrwyr hynny sydd wedi dewis gwneud cais yn benodol am swm llai na'r swm uchaf yw’r unig rai na chynyddir eu benthyciad yn awtomatig iddynt. Cewch ddysgu mwy am faint y gallwch ei fenthyg yma.
- Sut y defnyddir yr arian ychwanegol hwn?
Elusen gofrestredig yw Prifysgol Aberystwyth. Mae'r holl incwm a gynhyrchir gan y sefydliad yn cael ei fuddsoddi'n ôl ynddo. Mae cyfran yn cael ei buddsoddi bob blwyddyn mewn gweithgareddau sydd wedi'u targedu at sicrhau bod amrywiaeth ehangach o bobl yn gallu dod i’r brifysgol, at wella’r gefnogaeth a ddarparwn i'n myfyrwyr, ac at wella profiad y myfyrwyr. Bydd y refeniw ychwanegol a godir gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cap ar ffioedd dysgu yn cael ei drin yn yr un modd. Cewch ddarllen mwy am sut mae eich ffioedd yn cael eu buddsoddi yn y Brifysgol yma.
- Pa wasanaethau cyngor ariannol mae'r Brifysgol yn eu cynnig?
Rydym yn ymwybodol iawn o'r amgylchiadau economaidd sydd ohoni ac yn sylweddoli y gall rhai o'n myfyrwyr ganfod eu bod mewn caledi ariannol. Os teimlwch eich bod o dan bwysau ariannol, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm Cymorth i Fyfyrwyr trwy ebostio cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk neu trwy fynd i’r wefan. Gall y tîm gynnig cyngor a chefnogaeth amhrisiadwy, yn ogystal â chymorth ariannol i'r rhai mwyaf anghenus.
- Â phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i fwy o gwestiynau?
Os ydych yn gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi, ebostiwch uagstaff@aber.ac.uk. Os ydych eisoes yn fyfyriwr, ebostiwch ffioedd@aber.ac.uk