Opsiynau Astudio

Myfyrwyr Bioleg mewn labordi yr adran

Yma’n Aberystwyth rydym yn cynnig graddau sylfaen, anrhydedd sengl a chyfun, cyfuniadau prif bwnc/is-bwnc, a graddau Meistr integredig ar draws ein pynciau.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n siŵr o’u hystyr; rydym wedi esbonio pob un ohonynt isod. Dyma fraslun o’r modd y gallwch astudio cyrsiau yn Aberystwyth.

Yn gyffredinol, mae chwe math o radd ar gael yma yn Aberystwyth:

Graddau Baglor anrhydedd sengl

Gallwch arbenigo mewn un pwnc yn benodol. Mae’r rhain fel arfer yn para tair blynedd, er bydd myfyrwyr ieithoedd yn treulio blwyddyn ychwanegol dramor. Gellir astudio nifer o’n graddau dros gyfnod o 4 blynedd, gan gynnwys blwyddyn mewn gwaith neu flwyddyn yn astudio dramor.

Graddau anrhydedd Baglor gyda blwyddyn sylfaen

P'un a oes gennych gymwysterau anhraddodiadol, eisiau newid eich pynciau, wedi cael seibiant o addysg ac yn dymuno dychwelyd neu eisiau newid gyrfa, mae ein cynlluniau gradd anrhydedd Sengl gyda blwyddyn sylfaen yn Aberystwyth yn rhoi cyfle i'r rheini sydd â chefndiroedd amrywiol gael mynediad i radd anrhydedd.

Cynlluniwyd ein cynlluniau gradd anrhydedd Sengl gyda blwyddyn sylfaen er mwyn rhoi cyflwyniad eang ichi i syniadau, damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol yn y celfyddydau, dyniaethau, gwyddorau ffisegol a chymdeithasol.

Rydym yn addysgu trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau datblygu personol fydd yn rhoi’r hyder a’r profiad ichi ragori yn academaidd.

Cynlluniwyd y cynlluniau gradd i’ch galluogi i fyfyrio ar brofiadau dysgu trawsddisgyblaethol, i ddatblygu eich sgiliau rhesymu beirniadol ac i wella eich sgiliau cyfathrebu.

Mae gan fyfyrwyr sy’n dilyn ein graddau anrhydedd Sengl gyda blwyddyn sylfaen hawl i ddefnyddio holl gyfleusterau’r campws, i ymuno â’r cymdeithasau a phob dim arall sydd gan gymuned myfyrwyr Aberystwyth i’w gynnig.

 

Graddau Sylfaen

Mae’r graddau ymarferol yma, sydd fel arfer tua dwy/dair blynedd o hyd, yn cynnig hyfforddiant mwy galwedigaethol. Wedi ei chwblhau’n llwyddiannus, gall arwain at fynediad i flwyddyn olaf rhai cyrsiau - gradd sy’n addas iawn os hoffech ddatblygu eich gwybodaeth neu ail-hyfforddi.

Graddau Baglor anrhydedd cyfun

Mae’r rhain yn eich galluogi i astudio dau bwnc yn gyfartal, gan rannu’ch amser rhwng dwy adran wahanol. Mae ein dewis eang yn golygu y gallwch astudio pynciau cyfatebol, fel nad oes rhaid i chi ddewis rhwng eich hoff bynciau.

Graddau Baglor Prif Bwnc/Is-Bwnc

Mae’r graddau yma’n cynnig sylfaen gadarn yn un ddisgyblaeth ynghyd â’r fantais o astudio un pwnc arall. Fel arfer mae’r rhain yn para 3 blynedd, a byddwch yn treulio dwy ran o dair yn astudio’ch prif bwnc, ac un rhan o dair yn astudio’r is-bwnc.

Graddau Meistr integredig

Mae’r rhain yn caniatáu ichi integreiddio tair blynedd o astudio israddedig gyda blwyddyn arall o astudio ar lefel uwchraddedig sy’n arwain at gymhwyster Meistr. Gallwch wneud cais am fenthyciad myfyrwyr dros bedair blynedd ar gyfer y graddau hyn, yn hytrach na chwilio am gyllid ar gyfer gradd Meistr ar ôl gorffen y radd gyntaf.