Llety

Gyda dros 2,000 o ystafelloedd ar gael ledled ein hystad breswyl yn ystod yr haf, mae ein llety yn ddiguro yng Ngorllewin Cymru.

Rydym yn cynnig llety sy’n addas ar gyfer pob cyllideb, o ystafelloedd gwely sylfaenol i’n datblygiad newydd sbon, Fferm Penglais. Mae pob gwestai preswyl yn cael mynediad am ddim i’n Canolfan Chwaraeon, sydd â champfa newydd sbon a phwll nofio.

Ceir Wi-Fi am ddim ledled y campws.

Mae llety safonol ar gael trwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i conferences@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621960.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae ein holl lety i westeion wedi'i leoli ar neu'n union wrth ymyl Campws Penglais, Aberystwyth, chwarter awr o gerdded o ganol y dref, gorsaf reilffordd a chyfleusterau pellach.

 

I weld pa ystafelloedd sydd ar gael, neu i archebu llety , ewch i'n tudalen archebu, Archebwch Nawr. Os oes unrhyw anawster neu os ydych am archebu mwy nag 8 ystafell am fwy na 4 wythnos, cysylltwch â ni ar conferences@aber.ac.uk neu 01970 621960 am ddyfynbris.


Gallwch gyrraedd o 3yh ymlaen.


Rhaid bod allan o’ch ystafell erbyn 10yb yn y Byncws neu 9yb ym mhob llety arall.

 

 

Byncws – Llety

Y mae gan ein llety newydd sef y Byncws hyd at 90 o ystafelloedd sengl ac y mae ar gael drwy gydol y flwyddyn.

  • Ystafell sengl a dwbl ar gael,
  • Darperir dillad gwely a thywel Cegin yn llawn offer,
  • Basn ymolchi preifat yn yr ystafell,
  • Dau doiled a dwy gawod ym mhob fflat, yn cael eu rhannu rhwng 8 ystafell wely,
  • Wi-Fi cyflym am ddim,
  • Parcio am sdim,
  • Teledu yn y gegin.

Bunkhouse single bedroom

Archebwch Nawr

Llety Ensuite Premiwm - Fferm Penglais

Wedi'i ysbrydoli gan dirwedd a phensaernïaeth Cymru wledig, mae ein datblygiad newydd yn cynnig ystafelloedd en suite hael, gwelyau dwbl, cegin cynllun agored, a lolfeydd. Gyda holl gysuron corfforol y dydd, megis teledu sgrin fflat, peiriant golchi llestri a Wi-Fi, rydym yn gwybod y cewch chi brofiad 5*. Yn wir, Fferm Penglais yw’r llety Prifysgol cyntaf i gael 5* gan Croeso Cymru o fewn y categori Llety Campws.

Rosser – Llety Ensuite Safonol

 

Mae Rosser wedi ei leoli ar gopa Campws Penglais ac yn agos i’r holl adnoddau sydd ar gael ar y campws. Y mae gan nifer o’r ystafelloedd olgyfeydd ysblenydd o’r dref a’r bae, sydd 15 munud i ffwrdd ar droed.  Yn ogystal ac ail-addurno fe fyddant yn cynnwys ardaloedd eistedd cyfforddus, bar brecwast gyda chadeiriau a chyfarpar newydd. Mae’r fflatiau yn cynnwys 8 ystafell gyda cegin i’w rannu.

Cwrt Mawr - Llety Safonol

Lleolir Cwrt Mawr ar gopa  Campws Penglais ac yn agos i’r holl adnoddau sydd ar gael ar y campws. Y mae gan nifer o’r ystafelloedd olygfeydd ysblenydd o’r dref a’r bae, sydd 15 munud i ffwrdd ar droed. Mae’r fflatiau yn cynnws rhwng 8 – 10 ystafell gyda chegin ac ystafelloedd ymolchi i’w rhannu.