Cyflwyniad i Argraffu
Course Details
Module Code: YD10910
Class Code: CA107
Place: Lord Milford Building (Room 0.09
Venue: Gogerddan
Day: Friday
Start Time: 10.30AM
End Time: 4PM
Start Date: 16-10-2026
Tutor:
Fees:
Full Fee: £180.00
Fee Waiver Fee: £0.00
Mae'r cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cynnig taith gynhwysfawr o ddulliau argraffu 'relief' ac 'intaglio' ac yn annog dysgwyr i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol.
Yn ystod y cwrs hwn, a fydd yn cael ei gyflwyno gan artist a gwneuthurwr printiau profiadol, bydd dysgwyr yn astudio ac yn datblygu gwahanol dechnegau argraffu gan gynnwys monoprint, argraffu tetrapack a thorri lino. Trwy waith unigol a gwaith grŵp, caiff ddysgwyr gyflwyniad i wahanol dechnegau a sgiliau megis lliw, tôn a chymysgu yn ogystal â chyfle i ddatblygu syniadau ar themâu a syniadau penodol sy'n gysylltiedig â'r pwnc.
Bydd yr holl waith a grëir yn cael ei gynllunio o amgylch llun gwreiddiol o ffotograffau, llyfrau neu fywyd llonydd. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i arbrofi a gwthio'r ffiniau wrth ddysgu'r gwahanol dechnegau, gan ennill yr hyder a'r wybodaeth i barhau â'r prosesau yn y dyfodol.
Note
This module is at CQFW Level 4
