Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gynnig rhaglen hyfforddi micro-gymwysterau wedi’i hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Nod y rhaglen yw darparu hyfforddiant byr, hynod berthnasol, penodol i ddiwydiant ar gyfer busnesau, gan ganolbwyntio ar hyfforddi’r gweithlu mewn cadernid busnes penodol ac arferion cynaliadwy.
Mae hyfforddiant micro-gymwysterau yn cynnwys cyflwyno rhaglenni astudio byr. Gellir ei ddarparu naill ai ar lefel sylfaen, canolradd neu uwch yn dibynnu ar anghenion y cwmni. Bydd ymgeiswyr sy’n mynychu’r hyfforddiant yn cael cyfle i ennill credydau’r Brifysgol i’w defnyddio i gefnogi astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig yn y dyfodol ac mae’n cynnig pwynt mynediad delfrydol i raglenni addysg uwch yn y dyfodol.
Mae’r modiwlau’n para am gyfnod o ddeg awr, a bydd ymgeiswyr yn cael y cyfle i ennill credyd academaidd naill ai ar lefel blwyddyn olaf gradd (lefel 6) neu ar lefel Meistr (lefel 7).
BM37005 Business to Business marketing: Improving Business Networks
BM37105 Business to Consumer Relationship Development and Customer Experience
BMM5005 Project management Techniques
BMM5105 Quality and Six Sigma Systems
BMM5205 Lean and Industrial Energy Management
BMM5305 Supply Chain and Logistics Systems
Does dim angen i ymgeiswyr micro-gymwysterau gynnwys datganiad personol fel rhan o’u cais; fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gynnwys CV cyfredol.