Cofrestru'n Hwyr

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Brifysgol. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau eu bod yn cofrestru gyda'r Brifysgol, mae manylion y trefniadau i'w gweld ar y Amserlen Cofrestru Israddedigion.

Dylai pob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd (ac eithrio myfyrwyr TAR, Nyrsio, Gwyddor Filfeddygol a Cyrsiau Dysgu o Bell) gofrestru erbyn 5pm ddydd Mercher 27 Medi, os na allwch gwblhau'r cofrestriad erbyn y dyddiad hwn bydd yn rhaid i chi gysylltu â'ch adran(nau) academaidd lle bydd staff yn cynghori chi ar eich dewisiadau modiwl. Unwaith y byddwch wedi dewis y nifer gofynnol o gredydau ar gyfer eich cynllun bydd angen i chi wedyn gwblhau cofrestriad ar-lein o'ch Cofnod Myfyriwr ar y we. Rhaid i chi gwblhau cofrestriad hwyr erbyn 5pm dydd Mercher 4 Hydref fan hwyraf. Os byddwch yn methu â chofrestru erbyn y dyddiad hyn hon rhaid i chi hysbysu'r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr a byddwch yn colli mynediad at e-bost a chyfleusterau eraill y Gwasanaethau Gwybodaeth. SYLWCH: Nid yw'r Brifysgol yn rhoi caniatâd i gofrestru'n hwyr; mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod yn bresennol yn unol â Dyddiadau'r Tymor.

Rhaid i fyfyrwyr gradd TAR a Nyrsio cwblhau cofrestriad erbyn 5pm ddydd Mercher 13 Medi, os nad ydych yn gallu cwblhau’r cofrestriad erbyn y dyddiad hwn rhaid ichi hysbysu’r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr.  Manylion cyswllt isod. Os byddwch yn methu â chofrestru erbyn y dyddiad cau hwn byddwch yn colli mynediad at e-bost a chyfleusterau eraill y Gwasanaethau Gwybodaeth.  SYLWCH: Nid yw'r Brifysgol yn rhoi caniatâd i gofrestru'n hwyr; mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod yn bresennol yn unol â Dyddiadau'r Tymor.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr gradd Gwyddor Filfeddygol gwblhau’r cofrestriad erbyn 5pm ddydd Mercher 27 Medi, os na allwch gwblhau’r cofrestriad erbyn y dyddiad hwn mae’n rhaid ichi hysbysu’r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr.  Manylion cyswllt isod. Os byddwch yn methu â chofrestru erbyn y dyddiad cau hwn byddwch yn colli mynediad at e-bost a chyfleusterau eraill y Gwasanaethau Gwybodaeth.  SYLWCH: Nid yw'r Brifysgol yn rhoi caniatâd i gofrestru'n hwyr; mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod yn bresennol yn unol â Dyddiadau'r Tymor.

Cyrsiau Dysgu o Bell

Rhaid i fyfyrwyr newydd gwblhau cofrestru ar-lein erbyn 14 diwrnod o ddyddiad cychwyn y cwrs ar eich llythyr cynnig. Anogir myfyrwyr sy'n dychwelyd i gofrestru ar-lein erbyn 5pm dydd Mercher 27 Medi neu'n gynt ac o fewn 14 diwrnod fan bellaf, ar ôl y dyddiad dechrau blynyddol, sef 25 Medi.

Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr drwy e-bostio:

ugfstaff@aber.ac.uk  os ydych yn fyfyriwr israddedig

pgsstaff@aber.ac.uk  os ydych yn fyfyriwr uwchraddedig

dlrstaff@aber.ac.uk  os ydych yn fyfyriwr dysgu o bell

Pwysig i'w nodi - Os byddwch yn methu â chwblhau'r cofrestriad erbyn y dyddiadau cau a nodir uchod, mae nifer o oblygiadau:

  • Mae'n bosibl na chewch gofrestru ar gyfer y flwyddyn i ddod.
  • Bydd eich mynediad at gyfleusterau Gwasanaethau Gwybodaeth - cyfrifiaduron a llyfrgell - yn cael ei dynnu'n ôl. Mae hyn p'un a ydych wedi hysbysu'r Brifysgol eich bod yn bwriadu cofrestru'n hwyr. Ni fydd eich mynediad yn cael ei adfer hyd nes y byddwch wedi cwblhau cofrestru.
  • Ni fyddwch yn derbyn taliad o'ch benthyciad na'ch bwrsariaeth hyd nes y byddwch wedi cwblhau'r cofrestriad yn llawn.
  • Os dymunwch gymryd modiwlau lle mae nifer y myfyrwyr a ganiateir yn gyfyngedig yna rhaid i chi gwblhau'r cofrestriad i sicrhau eich lle.

Os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol ac yn dychwelyd yn hwyr rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Llety.  Gallwch anfon llythyr, neu e-bost at accommodation@aber.ac.uk, neu ffoniwch (01970) 622984. Os nad ydych wedi rhoi gwybod o flaen llaw eich bod yn dychwelyd yn hwyr mae’n bosibl y bydd eich ystafell yn cael ei rhyddhau i fyfyriwr arall.