Amserlen Cofrestru Israddedigion Medi 2024

RHAID i BOB myfyriwr bod yn bresennol ar y campws i gwblhau Cofrestru Ar-lein.  Nid oes angen i fyfyrwyr Dysgu o Bell fod yn bresennol ar y campws i gofrestru.

Mae'r tasgau Rhag-gofrestru a Chofrestru Ar-lein wedi'u rhestru o dan yr adran 'Fy Nhasgau' o'r Cofnod Myfyriwr ar y we.

Cynghori a Rhag-Gofrestru

Rhag-gofrestru ar gyfer pob Myfyriwr Newydd (ac eithrio Cyrsiau Nyrsio BSC, Gwyddor Filfeddygol BVSC a Dysgu o Bell)

Mae cynghori ar Gynlluniau Astudio a Modiwlau yn digwydd ar-lein ar gyfer holl fyfyrwyr newydd drwy’r dasg Rhag-gofrestru ar y Cofnod Myfyriwr ar y we. 

Bydd y dasg Rhag-gofrestru ar gael i holl fyfyrwyr newydd o ddydd Llun 16 Medi hyd at ddydd Llun 23 Medi.  RHAID i fyfyrwyr gael cyngor wrth eu hadrannau CYN cwblhau'r dasg Rhag-gofrestru.

Cofrestru ar gyfer bob Myfyriwr

Blwyddyn Gyntaf (Rhan Un) sy’n dilyn Modiwlau Lefel 0 ac/neu Lefel 1

DYLAI POB MYFYRIWR  BLWYDDYN GYNTAF SY’N DILYN MODIWLAU LEFEL DIM AC/NEU FODIWLAU LEFEL UN - (AC EITHRIO MYFYRWYR NYRSIO BSC, GWYDDONIAETH MILFEDDYGOL BVSC A CYRSIAU DYSGU O BELL) cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy'r Cofnod Myfyriwr ar y we ar ddydd Mawrth 24 Medi.

Myfyrwyr Nyrsio BSC

MYFYRWYR NYRSIO BSC dylid cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy'r Cofnod Myfyriwr ar y we o 9.00yb ar ddydd Iau 29 Awst.  Mi fydd y dasg Cofrestru Ar-lein yn cau dydd Mercher 11 Medi.

Myfyrwyr Gwyddoniaeth Milfeddygol BVSC

MYFYRWYR GWYDDONIAETH MILFEDDYGOL BVSC dylid cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy'r Cofnod Myfyriwr ar y we o 9.00yb ar ddydd Iau 12 Medi.  Mi fydd y dasg Cofrestru Ar-lein yn cau dydd Mercher 25 Medi.

Myfyriwr Rhan Dau sydd wedi cwblhau Rhag Cofrestru yn foddhaol

Gall POB MYFYRIWR RHAN DAU (sef myfyrwyr sydd yn gwneud blwyddyn dau neu uwch a modiwlau lefel dau neu uwch) SYDD WEDI CWBLHAU RHAG COFRESTRU YN FODDHAOL gofrestru ar gyfer eu cynllun gradd a’u modiwlau ar lein.  Bydd y dasg Cofrestru Ar-lein ar gael trwy’r Cofnod Myfyriwr o 9.00 yb ar ddydd Iau 19 Medi.

Myfyrwyr Rhan Dau sydd heb gwblhau Rhag-Gofrestru

Dylai MYFYRWYR RHAN DAU (sef myfyrwyr sydd yn gwneud blwyddyn dau neu uwch a modiwlau lefel dau neu uwch) SYDD HEB GWBLHAU RHAG-GOFRESTRU neu y bydd eu cynllun neu eu modiwlau yn newid ceisio cyngor wrth eu hadrannau CYN cwblhau Cofrestru Ar-lein.  Mae adrannau wedi dynodi dydd Mercher 25 Medi i gynghori myfyrwyr Rhan Dau sydd angen cyngor ar ddewis modiwlau.  Dylai myfyrwyr gwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein trwy eu Cofnod Myfyriwr ar ôl i'r adran(nau) nodi eu dewis o fodiwlau ar eu cofnod.

Cyrsiau Dysgu o Bell

Myfyriwr Newydd bydd y ffenestr ar gyfer Cofrestru Ar-lein ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we yn agor 9 diwrnod cyn y dyddiad dechrau y gwrs ar eich llythyr cynnig. 

Myfyrwyr sydd yn dychwelyd bydd y dasg Cofrestru Ar-lein ar gael ar eich Cofnod Myfyriwr o 9:00yb ar 15 Medi 2024. Dylai myfyrwyr gwblhau cofrestry ar-lein erbyn 5:00yp ar Dydd Mercher 25 Medi 2024 neu ynghynt. 

Dylai POB MYFYRIWR fod wedi cwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein erbyn 5pm ddydd Mercher 25 Medi 2024 (ac eithio myfyrwyr Nyrsio a Gwyddoniaeth Milfeddygol a ddylai wedi cwblhau cofrestru yn gynt ac myfyrwyr dysgu o bell).

Gall MYFYRWYR AG UNRHYW GWESTIYNAU neu unrhyw un sydd angen cymorth i gwblhau’r dasg Cofrestru Ar-lein ddod draw i’r Ddesg Gymorth Cofrestru yng nghyntedd Llyfyrgell Hugh Owen o 9am tan 5pm dydd Llun 23, dydd Mawrth 24 neu ddydd Mercher 25 Medi.

Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr gan ddefnyddio unrhyw un o’r manylion cyswllt canlynol:

Cyfleuster ‘Sgwrsio’ ar dudalen cartref eich Cofnod Myfyriwr neu hefyd ar gael ar dudalen we Materion Israddedigion

E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk / Dysgu o bell dlrstaff@aber.ac.uk  

Neu ffoniwch wrth ddefnyddio'r rhifau ffôn ar ein manylion cyswllt ar dudalen Materion Israddedigion

Cysylltion Defnyddiol

Cofnod Myfyriwr ar y we:
https://studentrecord.aber.ac.uk/cy/

Croeso Myfyrwir a’r Wythnos Ymgartrefu:
https://www.aber.ac.uk/cy/new-students/freshers/ 

Adrannau a Chyfleusterau:
https://www.aber.ac.uk/cy/departments/ 

Arian Myfyrwyr:
https://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/ 

Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr:
https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/