Ysgoloriaethau

Mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae nifer o gynlluniau gradd y Brifysgol, mewn amryw o feysydd academaidd yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau y Coleg.

Am restr gyflawn o gyrsiau sy’n gymwys ar gyfer ysgoloriaeth yn Aberystwyth, edrychwch yn ein prosbectws cyfrwng Cymraeg. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar chwilotydd cyrsiau'r Coleg Cymraeg.

Bydd holl ddeiliaid ysgoloriaethau yn cael gweithio tuag at gymhwyster Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg.

Ysgoloriaethau Israddedig

Prif Ysgoloriaethau

Gwerth y Prif Ysgoloriaethau yw £3000 (£1000 y flwyddyn) a chynigir y rhain i fyfyrwyr sy'n astudio 80 credyd neu'n fwy'r flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i fyfyrwyr sefyll ein harholiad mynediad i gael eu hystyried ar gyfer un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dylid llenwi'r atodiad perthnasol ar ffurflen gais yr ysgoloriaeth er mwyn cofrestru ar gyfer yr arholiad. Nid oes modd trosglwyddo Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a ddyfernir gan un brifysgol i brifysgol arall.

Ysgoloriaethau Cymhelliant

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Cymhelliant gwerth £1500 (£500 y flwyddyn) ar gyrsiau lle mae modd astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes angen sefyll arholiad ar gyfer yr Ysgoloriaethau Cymhelliant. 

Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am ysgoloriaeth a ffurflenni cais, ewch i adran myfyrwyr gwefan y Coleg.

Peidiwch ag anghofio am Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau’r Brifysgol.  Ceir mwy o fanylion yma.

Ysgoloriaethau Ymchwil

Mae Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn cynnig grant cynhaliaeth a ffioedd sy’n gyfwerth â’r hyn a gynigir gan Gynghorau Ymchwil y DG (UKRI) i ddarpar academyddion sydd yn astudio ar gyfer doethuriaeth.  Maent hefyd yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil ac addysgu ac yn magu profiad trwy gyfrannu at fodiwlau israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Gangen yn gallu enwebu un Ysgoloriaeth Ymchwil doethuriaeth (PhD) drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol pob blwyddyn. Y drefn arferol yw bod pob Prifysgol yng Nghymru yn gallu cyflwyno hyd at pum chais y flwyddyn i’w hystyried gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym yn croesawi syniadau am brosiectau posib drwy’r flwyddyn ond byddai angen i ni dderbyn cais erbyn 1af o Dachwedd er mwyn ystyried prosiect bydd yn dechrau yn y mis Medi canlynol.