Arlwyo yn y Lletyau
Y mae myfyrwyr mewn Llety sy'n Arlwyo Penbryn a Pantycelyn yn aelodau o'r cynllun Cerdyn Teyrngarwch yn awtomatig ac yn derbyn Cerdyn Debyd unwaith iddynt gyrraedd y llety. Gellir defnyddio'r cerdyn teyrngarwch i dalu am fwyd a diod yn y rhan fwyaf o'n lleoedd bwyta.
Mae ffioedd yr holl lety arlwyo yn cynnwys elfen benodol i dalu costau hyd at ddau bryd bwyd y dydd sy'n rhoi i'r myfyriwr yr hyblygrwydd o ddewis ble a phryd i fwyta.
Gall myfyrwyr ychwanegu at werth y Cerdyn Teyrngarwch os dymunant.
Llety arlwyo - ateb eich cwestiynau...
-
Beth yw'r manteision i fi?
Cynllun i dalu ymlaen llaw yw'r Cerdyn Aber sy'n cynnig gostyngiad o 10% pan fyddwch yn prynu bwyd a diod, ac fe gewch ymuno yn rhad ac am ddim. Cewch ddefnyddio'r cerdyn i brynu bwyd a diodydd. Bob tro y defnyddiwch y Cerdyn gallwch ofyn am dderbynneb yn dangos eich balans cyfredol, sy'n gallu eich helpu i gadw llygad ar eich sefyllfa ariannol.
-
Sut mae rhoi arian ar y Cerdyn?
Bydd eich ffi llety arlwyo yn cynnwys lwfans am brydau bwyd. Caiff y lwfans ei llwytho ar y Cerdyn mewn tair rhan – un ar ddechrau pob tymor.
-
Pryd y gallaf i ddefnyddio'r Cerdyn?
Cewch ddefnyddio'r cerdyn cyn gynted ag y byddwch yn ei gael. Gellir defnyddio’r cerdyn ymhob un o’n canolfannau arlwyo sydd ar agor o 8 y bore tan 10 yr hwyr.
-
Beth sy'n digwydd os bydd fy nghredyd yn dod i ben?
Dylai'r lwfans fod yn ddigon i dalu am o leiaf un pryd y dydd, ond mae croeso i chi ychwanegu at eich balans drwy dalu wrth unrhyw dil â siec neu arian parod. Cofiwch y gall unigolion eraill ychwanegu at eich balans trwy lenwi a dychwelyd ffurflen ar-lein.
Cofiwch bod y lwfans ar gyfer pob diwrnod o’r drwydded gan gynnwys gwyliau (heblaw am Pantycelyn), felly dylech ganiatáu am hyn wrth gyllido eich lwfans.
-
Beth sy'n digwydd i’r arian sy’n weddill ar ddiwedd y tymor?
Ar ddiwedd y ddau dymor cyntaf bydd unrhyw gredyd sy'n weddill yn cael ei gario i'w ddefnyddio yn y tymor nesaf.
-
Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y flwyddyn?
Bydd y lwfans gwreiddiol yn dod i ben ar ddiwrnod olaf eich trwydded llety. Nid oes modd talu'r arian hwn yn ôl i chi, felly dylech geisio defnyddio eich credyd erbyn diwedd y tymor olaf.
-
Beth sy'n digwydd os rhoddwyd taliadau ychwanegol ar y cerdyn?
Os ydych wedi rhoi taliadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn, bydd yr arian yn aros ar eich Cerdyn i chi ei ddefnyddio yn y flwyddyn academaidd nesaf, neu yn ystod yr haf, cyhyd â'ch bod yn ei ddefnyddio yn y chwe mis nesaf.
-
Beth fydd yn digwydd os tynnaf yn ôl o'm llety arlwyo yn ystod y flwyddyn?
Dylech gadw mewn cof bod y gwerth a roddir ar eich Cerdyn ar ddechrau'r tymor wedi ei gyfrif gyda'r disgwyliad y byddwch yn preswylio am y tymor cyfan. Os tynnwch yn ôl yn gynnar byddwn yn ailgyfrif y swm y mae gennych hawl iddo ar sail pro-rata yn ôl y nifer o ddyddiau preswylio y byddwch wedi talu amdanynt.
Er enghraifft, os gadewch hanner ffordd drwy'r tymor, ac felly talu ffioedd llety am hanner tymor yn unig, bydd y credyd y byddwch gennych hawl iddo yn troi yn hanner y swm gwreiddiol. Os byddwch wedi gwario mwy na'r swm hwnnw, fe gewch anfoneb am y gwahaniaeth.
Os tynnwch yn ôl yn gynnar, dylech siarad â rhywun yn Swyddfa'r Gyllid Croeso er mwyn cael gwybod faint fydd eich lwfans newydd ac felly faint sydd ar ôl gennych i'w wario. Peidiwch â cheisio defnyddio'r holl gredyd sydd ar y cerdyn achos mai chi fydd yn gyfrifol am dalu'r gweddill a wariwyd ar ben eich lwfans! Cysylltwch â’r tîm preswyl yn nerbynfa Penbryn i gael cymorth pellach.
-
Beth sy'n digwydd os bydd rhywun arall yn defnyddio'r cerdyn?
Mae'ch Cerdyn yn werthfawr a'ch cyfrifoldeb chi yw gofalu amdano. Os bydd eich cerdyn yn cael ei golli neu ei ddwyn, cysylltwch ag aelod o staff y Gwasanaethau Croeso yn syth ac fe fyddant yn atal y cerdyn. Gallwch gael cerdyn newydd am y pris safonol gan y Llyfrgell. Gallwn roi cerdyn dros dro i fyfyrwyr wrth iddynt aros am eu cerdyn newydd gan y Llyfrgell.
Gair i'r Gall
- Edrychwch ar eich balans yn rheolaidd i'ch helpu chi i gynllunio eich gwario.
- Dylech osgoi gwneud taliadau ychwanegol mawr os ydych ar fin gadael – ni fyddwn yn talu arian yn ôl.
- Cofiwch bydd y lwfans gwreiddiol yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y tymor terfynol.
- Mae Cerdyn Aber yn rhoi mynediad i ystod o adnoddau a Gwasanaethau i chi, felly dylech ei chadw’n ddiogel.
Gellir cael manylion llawn ar y ffordd y mae’r cerdyn yn gweithio a sut y gellir rhoi arian arni drwy fynd i adran Cerdyn Aber o’r wefan.