Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd – Ebrill 2015

O 1af Ebrill, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ddarparwr Hyfforddiant Awdurdodedig y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol / Institution of Occupational Safety and Health (IOSH). Ceir cydnabyddiaeth ryngwladol i gyrsiau IOSH ac fe’i ystyrir yn un o arweinwyr y farchnad am hyfforddiant iechyd a diogelwch.

Dros y misoedd nesaf bydd yr adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cyflwyno cyrsiau ‘Gweithio’n Ddiogel’ a ‘Rheoli’n Ddiogel’. Cwrs undydd yw ‘Gweithio’n Ddiogel’ sy’n rhoi cyflwyniad i iechyd a diogelwch i bobl ar unrhyw lefel, yn unrhyw sector. Mae’n canolbwyntio ar arferion gorau, ac yn gofyn i unigolion ystyried pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gweithle, a gofyn iddynt feddwl sut y gallent, drwy eu hymddygiad fel unigolion, wneud gwahaniaeth i iechyd a diogelwch.

Mae ‘Rheoli’n Ddiogel’ yn gwrs pum diwrnod i reolwyr ac arolygwyr, ac mae’n canolbwyntio ar y camau ymarferol sydd angen eu cymryd i reoli iechyd a diogelwch o fewn eu timau. Bydd y cwrs yn dangos sut mae ystyrion iechyd a diogelwch yn rhan angenrheidiol o swyddogaeth reolaethol neu arolygol.

Caiff gwybodaeth ynghylch cofrestru a dod ar un o’r cyrsiau hyn eu hanfon at unigolion perthnasol maes o law. I gael unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’r adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk.

Ceir gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r cwrs ‘Gweithio’n Ddiogel’ trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.iosh.co.uk/Training/IOSH-training-courses/Working-safely-course.aspx  

Ceir gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r cwrs Rheoli’n Ddiogel trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.iosh.co.uk/Training/IOSH-training-courses/Managing-safely-course.aspx