Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd – Mehefin 2015

Mae Arolwg Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd Prifysgol Aberystwyth yn awr yn agored i bob aelod o staff. Gwerthfawrogir eich amser a’ch amynedd i gwblhau’r arolwg byr er mwyn mesur agweddau a safbwyntiau’n ymwneud â iechyd, diogelwch a’r amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

I gwblhau’r arolwg dilynwch y ddolen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/hsesurvey/

Bydd gan aelodau staff gyfle i gwblhau’r arolwg hyd at y dyddiad cau ar Ddydd Mercher 17 Mehefin.

Bydd eich atebion yn werthfawr i gynorthwyo gyda datblygu strategaeth Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd newydd Prifysgol Aberystwyth. Bydd diddordeb arbennig yn unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r ffordd y credwch y gellir gwella darpariaeth ac ystyriaethau iechyd, diogelwch a’r amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ystyrir pob safbwynt a barn yn rhan o’r broses werthuso.

Ystyrir pob ymateb yn ddienw.

I gael unrhyw wybodaeth bellach yn ymwneud â’r Arolwg Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, cysylltwch â’r tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.