Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd – Mai 2015
Tannau Gwair
Mae’r tymheredd cynnes a sych diweddar wedi annog lefel digyffelyb o dannau gwair, yn enwedig yng Nghymru. Rhwng 1af Ebrill a 15fed Ebrill 2015, galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) allan i 473 tân gwair, y mwyafrif ohonynt yn dannau a ddechreuwyd yn fwriadol. Ar 15fed Ebrill yn unig, galwyd GTADC allan at dros 50 o dannau gwair a ddechreuwyd yn fwriadol o fewn y cyfnod hwnnw o 24 awr.
Mae tannau gwair a mynydd yn arbennig o beryglus gan eu bod yn aml yn anrhagweladwy a gallant fynd allan o reolaeth o fewn munudau. Mae’r dirwedd serth yn gallu arwain at broblemau hygyrchedd sydd yn effeithio ar allu’r Gwasanaethau Tân ac Achub i ymdrin â thannau o’r fath. Ni ddylai unigolion geisio diffodd y tannau hyn eu hunan, ac fe’u hanogir i roi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw ymddygiad amheus.
Gall tannau gwair arwain at ganlyniadau anuniongyrchol sylweddol, a gall olygu bod adnoddau’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cael eu dargyfeirio o ddigwyddiadau eraill a allai fod yn ddifrifol iawn. Ar 21ain Ebrill yn unig, derbyniodd Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 250 o alwadau 999 o ganlyniad i dannau gwair ledled y De Orllewin.
Dyma’r cyngor i bawb:
- Ystyried canlyniadau cynnau tân yn fwriadol a’r effaith ar gefn gwlad a bywyd gwyllt;
- Ystyried effaith tannau bwriadol ar eich cymunedau;
- Ystyried yr effaith ar Ddiffoddwyr Tân a’u diogelwch, pan fônt yn ymateb i achosion o dannau bwriadol nid ydynt yn gallu ymateb i ddigwyddiadau eraill gan gynnwys tannau cartref a gwrthdrawiadau ar y ffordd;
- Mae llosgi bwriadol yn drosedd. Gallwch helpu drwy ddarparu gwybodaeth neu ddisgrifiadau manwl er mwyn galluogi’r heddlu i arestio’r rheini sy’n gyfrifol;
- Os ydych yn rhan o gynllun cymunedol, mae eich gwybodaeth yn amhrisiadwy, ac mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn gofyn i chi barhau i roi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus i Uned Troseddau Tân yr Heddlu.
Gofynnir i aelodau o’r cyhoedd hefyd i fod yn arbennig o ofalus wrth gael gwared ar sigaréts a deunydd ysmygu eraill yn agos i ardaloedd gwelltog, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd sych.
Cewch ragor o wybodaeth am dannau gwair drwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: http://www.mawwfire.gov.uk/Pages/Welcome.aspx