Asesu Risg

Mae asesiad risg yn golygu y gall risg gael ei rheoli, ac yn amlygu’r mannau lle gall niwed ddigwydd ac asesu’n ddigonol a oes camau rhesymol yn eu lle. Mae’n help hefyd i adnabod peryglon pellach a gafodd eu hanwybyddu yn y gorffennol.

Cyd-destun Cyfreithiol

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i ofalu dros, a diogelu, eu gweithwyr dan Adran 2 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974. Er mwyn gwneud hynny, mae’r Rheoliadau (Diwygio) Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, 2006 a HSG 65, ‘Rheoli Iechyd a Diogelwch’, yn mynnu bod asesiadau risg yn cael eu cynnal a’u cyfathrebu’n briodol. Nid cynhyrchu gormodedd o waith papur yw diben asesiadau risg, ond ymarfer pwysig i sicrhau bod gweithwyr sy’n cynnal gweithgareddau sy’n ymwneud â’r gwaith yn cael eu diogelu. Dylent arwain at allu rheoli gweithgarwch ‘gymaint ag sy’n rhesymol ymarferol’ i leihau’r perygl i lefel ‘mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol’. 

Prif Gamau

Cynnal Asesiad Risg

  1. Paratoi rhestr o dasgau a lleoliadau sydd angen asesiad risg;
  2. Adnabod aseswyr risg cymwys (a darparu hyfforddiant pellach os oes angen), hybu aseswyr i beidio gweithio ar wahân;
  3. Ymgymryd ag asesiadau risg h.y.:
    • Adnabod y peryglon y bydd pobl yn eu wynebu
    • Penderfynu pwy fydd yn wynebu’r peryglon a sut
    • Gwerthuso lefel y risg a chofnodi gwerth
    • Canfod os yw’r rheoliadau risg cyfredol yn addas neu fel arall cyflwyno rheoliadau risg addas a digonol
    • Cofnodi’r asesiad a’i roi i bawb sydd ei angen ei ddefnyddio; gan ganiatáu ar gyfer trefniadau adolygu ac ailasesu rheolaidd
    • Adolygu ac archwilio’r asesiadau yn rheolaidd
    • Parhau i fod yn ymwybodol o bobl, amodau a pheryglon newidiol, a monitro bod y mesuriadau rheoli yn parhau i weithio’n effeithiol
  4. Ar sail barhaus, diweddaru ac ymgymryd ag asesiadau risg newydd yn ôl yr angen;
  5. Ymgynghori â staff ar ganlyniadau’r asesiad risg. Darparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a hyfforddiant yn ôl yr angen, gan gynnwys cyfarwyddiadau i reolwyr a goruchwylwyr;
  6. Cynnal cynllun gweithredu o weithredoedd dyledus sy’n codi o’r asesiadau risg, eu dyrannu i unigolion penodol gyda targedau i’w cwblhau a dilyn i sicrhau cwblhad.

Dogfennau

Mae’r dogfennau canlynol ynglŷn ag Asesu Risg ar gael yn y Llyfrgell Ddogfennau:

  • P019 Gweithdrefn Asesu Risg
  • G013 Canllaw Asesu Risg
  • F003 Templed Asesu Risg

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Diogelwch Data

Hysbysiad Diogelu Data: Mae'r Tîm Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn ymroddedig i ddiogelu data personol trwy gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac arfer gorau. Am fanylion ynghylch sut yr ydym yn rheoli eich data personol, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/gwybodaeth-am-ddiogelu-data/

Hyfforddiant

Mae'r Tim Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn darparu cwrs hyfforddiant asesu risg 2 awr sydd yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ymgymryd ag asesiad risg digonol, cyflwyno mesuriadau rheoli addas, ac arsylwi ac arolygu canlyniadau'r asesiad risg. Mae'r cwrs yn esbonio pob un o'r camau ar gyfer cwblhau asesiad risg digonol, yn darparu templed asesu risg i'w ddefnyddio yn y gweithle, ac yn cyfeirio at yr enghreifftiau sydd ar gael ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Enghreifftiau

Nodwch:

  • Y dylid ond defnyddio'r dogfennau hyn fel canllawiau, ac os ydych yn eu defnyddio fel templed, y dylent adlewyrchu sefyllfaoedd ac amodau lleol Athrofeydd ac Adrannau.
  • Gallwch gopïo ac addasu'r wybodaeth yn y ffurflenni hyn i’w defnyddio yn y ffurflenni a ddefnyddir yn yr Athrofeydd a’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol.

Enghreifftiau Asesu Risg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r asesiadau risg canlynol ar ffurf .pdf:

Example: Catering Facilities

Example: Cleaning Operations

Example: Computer Workstation

Example: Edged Tools

Example: General Office/Admin Duties

Example: General Office Equipment

Example: Graphic Design

Example: Hand Tools

Example: Laboratory Technician Duties

Example: Lectures

Example: Litter/Debris Collection

Example: Maintaining a Swimming Pool

Example: Manual Handling of Deliveries

Example: Microwave Oven

Example: Non-lab Practical

Example: Water Boilers

Example: Working on a Gantry above a Stage