Cystadleuaeth Ffotograffig IBERS

Yr Athro Wayne Powell gyda’r enillwyr.

Yr Athro Wayne Powell gyda’r enillwyr.

12 Mehefin 2013

Ddydd Mercher 29 Mai, cyflwynwyd gwobrau cystadleuaeth ffotograffiaeth IBERS 2013 i’r enillwyr gan Gyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell.

Cafwyd mwy na 250 o gynigion gan fyfyrwyr a staff IBERS mewn pum categori, sef ‘Fy IBERS i’, ‘Ar y Fferm’, ‘Y Tymhorau a’r Dirwedd’, ‘Bywyd Myfyrwyr’ a ‘Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd’.

Roedd y safon yn uchel iawn a gorchwyl anodd, ond pleserus, oedd dewis yr enillwyr.

Mae’r lluniau buddugol i’w gweld ar wefan IBERS. Byddant yn cael lle amlwg ar un o furiau adeilad newydd IBERS ac fe’u defnyddir mewn amrywiaeth o ddeunydd marchnata ar gyfer yr adran.

Yn y sesiwn wobrwyo, siaradodd pob enillydd yn gryno am eu llun a sut y’i tynnwyd.

Wrth roi’r gwobrau, llongyfarchodd yr Athro Powell yr enillwyr ar eu lluniau penigamp a diolchodd i bawb a roes gynnig ar gystadlu.