Ymweliad Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Yr Athro Paul Shaw, Lesley Griffiths AC, Dr Niall McKeown IBERS a Leanne Llewellyn o Llywodraeth Cymru.

Yr Athro Paul Shaw, Lesley Griffiths AC, Dr Niall McKeown IBERS a Leanne Llewellyn o Llywodraeth Cymru.

29 Awst 2017

Bu Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cyfarfod Yr Athro Paul Shaw heddiw i glywed am ymchwil IBERS ar ddefnyddio dulliau genetig blaenllaw i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy.

 Mae'r Athro Paul Shaw yn arwain elfen Prifysgol Aberystwyth o brosiect € 6.25 miliwn BLUEFISH, a ariennir dan raglen Interreg UE Iwerddon-Cymru i ymchwilio i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd ar weithgareddau pysgodfeydd a dyframaeth ar draws Môr Iwerddon.

Mae grŵp ymchwil yr Athro Shaw yn astudio dosbarthiad ac esblygiad amrywiaeth genetig mewn poblogaethau naturiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar reoli'n gynaliadwy rhywogaethau dyfrol sy'n cael eu pysgota.

Fe'i hariennir gan Lywodraeth yr UE, Llywodraeth Cymru, Defra, NERC, Llywodraeth Ynysoedd y Falkland, a phrosiectau datblygu Banc y Byd o gwmpas de Affrica i gyfrannu at reoli pysgodfeydd masnachol a arbenigol ledled y DU ac ar draws y byd.

Esboniodd yr Athro Shaw wrth Ysgrifennydd y Cabinet sut roedd ymchwil geneteg ei grŵp wedi sefydlu y bydd angen ail-lunio ffiniau'r Comisiwn Tiwna Rhyngwladol ar gyfer rheoli stociau tiwna melyn byd-eang rhwng Moroedd yr Iwerydd ac Indiaidd.

Yn nes adref, mae ymchwil ei grŵp yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o stociau o grancod ac ansiofi bwytadwy o gwmpas y DG ac o ddraenog y môr a chregyn moch yn nyfroedd Cymru.