Gwyddonydd Aber yn achlysur New Scientist Live

Dr Karen Siu-Ting gyda ffosil o amffibiad yn Amgueddfa Hanes Naturiol yn Vienna

Dr Karen Siu-Ting gyda ffosil o amffibiad yn Amgueddfa Hanes Naturiol yn Vienna

27 Medi 2017

Mae Dr Karen Siu-Ting, Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol Cofund IRC ELEVATE-MSCA ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynrychioli IBERS yn New Scientist Live yn Llundain dros y dyddiau nesaf. Mi fydd yn rhan o weithgaredd y Gymdeithas Frenhinol Bioleg, sef ‘Holwch y Biolegydd', gan gyflwyno ei hymchwil ar frogaod saeth gwenwynig.

Mae New Scientist Live yn ŵyl o syniadau a darganfyddiad, a gynhelir yn ExCeL Llundain o ddydd Iau 28 Medi - dydd Sul 1 Hydref, a fe ddisgwylir tua 30,000 o ymwelwyr ar draws 4 diwrnod.

Bydd y Gymdeithas Frenhinol Bioleg yn cynnal y gweithgaredd 'Ask a Biologist' ar stondin rhif 528 ym Mharth y Ddaear yn yr ardal arddangos. Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i holi 24 o'i haelodau arbenigol, i ddarganfod mwy am yr hyn y mae y Gymdeithas Frenhinol Bioleg yn ei wneud a sut y gallant gymryd rhan ynddo.

Mae Dr Karen Siu-Ting yn fiolegydd esblygol o Peru sydd yn arbenigo mewn amffibiaid. Mae ei hymchwil yn cyfuno gwaith maes yn fforest law yr Amazon, gyda dadansoddiadau labordy a chyfrifiadurol i fynd i'r afael â chwestiynau biolegol.

Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar brosiect ar frogaod saeth gwenwynig rhwng Prifysgol Dinas Dulyn (Iwerddon) a Phrifysgol Aberystwyth (Cymru), ac mae wedi gwirfoddoli'i hamser yn frwdfrydig i fod yn rhan o ‘Holwch y Biolegydd’.

Dywedodd "Rwy'n ymchwilio sut mae'r brogaod rhain yn caffael eu tocsinau trwy eu diet a pha addasiadau y maent wedi'u datblygu i wrthsefyll y tocsinau rheiny a’u hailddefnyddio'r fel amddiffynfeydd. Bydd pobl sy'n ymweld â'r stondin yn dechrau trwy ofyn i mi: "Ble mae brogaod saeth gwenwynig yn cael eu tocsinau?", a mi fydd y sgwrs yn mynd oddi yno.

Dyma gyfle gwych i mi ymgysylltu â'r cyhoedd yn fy maes bioleg ac mae'n gyfle cyffrous i'r cyhoedd ddysgu mwy am y gwaith sy'n digwydd yn IBERS."