Buddsoddiad ymchwil mawr i drawsnewid defnydd tir ym Mhrifysgol Aberystwyth

Llun o’r awyr o gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.

Llun o’r awyr o gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth.

16 Ionawr 2024

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gonsortiwm arbenigol newydd a sefydlwyd i helpu Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU i fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddefnydd tir ac amaethyddiaeth.

Mae’r Ganolfan ‘Defnydd Tir ar gyfer Sero Net’ (LUNZ), a arweinir ar y cyd gan Sefydliad James Hutton a Phrifysgol Caerlŷr ac sy’n cynnwys academyddion o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi derbyn £6.25 miliwn o gyllid gan Ymchwil ac Arloesi'r Deyrnas Gyfunol.

Bydd y consortiwm newydd yn cynnig tystiolaeth amserol i lywodraethau gwledydd y DU ynghylch defnydd tir, o ynni adnewyddadwy i garbon pridd a chyllid gwyrdd, i helpu ysgogi’r trawsnewidiadau tir sydd eu hangen er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050.

Bydd hefyd yn chwarae rhan ganolog wrth helpu i gyfleu pwysigrwydd hanfodol tir yn ehangach a sut y caiff ei ddefnyddio fel sinc neu ffynhonnell garbon fawr.

Mae amaethyddiaeth a defnydd tir yn cael effaith fawr ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn ogystal ag ystod eang o ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd eraill, ond mae’r cynnydd tuag at ddatgarboneiddio ar ei hôl hi o gymharu â sectorau eraill.

Mae’r datganiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn COP28 ar amaethyddiaeth gynaliadwy, systemau bwyd gwydn a gweithredu ar yr hinsawdd yn nodi bwriad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i weithredu ar ddefnydd tir a newid hinsawdd drwy gynyddu cymorth ariannol cyhoeddus a chyflwyno rhagor o atebion sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, a bydd y Ganolfan newydd yn gyfrwng allweddol ar gyfer y gweithredoedd hyn.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae hwn yn fuddsoddiad mawr mewn gwaith hanfodol i gefnogi trosglwyddo’n gyfiawn i sero net, ac rydyn ni’n falch o allu cyfrannu ein harbenigedd.. Ein nod fel consortiwm yw trawsnewid defnydd tir, systemau amaethyddol ac iechyd pridd. Bydd cyflawni’r trawsnewid mewn rheolaeth tir sydd ei angen yn dibynnu ar fynediad y llywodraeth i ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf. Ar y cyd â phartneriaid eraill, byddwn yn datblygu llwybrau credadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gyrraedd Sero Net; wedi’u hamseru a’u teilwra i ddiwallu anghenion y llywodraeth a’r sector. Ein gweledigaeth ar gyfer y ganolfan newydd yw un sy’n gynhwysol ac yn gweithio i’r pedair gwlad ac sy’n dadansoddi, cydgasglu a chyfleu tystiolaeth i gefnogi llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.

“Bydd ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu gyda’r sgiliau, yr arbenigedd a’r adnoddau sydd gennym ni yn Aberystwyth a'r partneriaid eraill. Bydd yn cael ei adeiladu ar egwyddorion adeiladu capasiti a throsglwyddo cyfiawn. Bydd yn uno ac yn cyflymu tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o brosiectau ymchwil y consortiwm ac ymchwil allweddol gysylltiedig i lywio polisi ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ym mhedair gwlad y Deyrnas Gyfunol.”

Dywedodd cyd-arweinydd Canolfan y Consortiwm buddugol, yr Athro Lee-Ann Sutherland o Sefydliad James Hutton:

“Mae’r wyddoniaeth y tu ôl i ddefnydd tir yn hynod gymhleth. Mae ystod o ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn dylanwadu arno, ac yn cael ei gymhlethu ymhellach gan sylfaen dystiolaeth newidiol, grymoedd marchnad newydd, ymddangosiad data a modelau newydd, a thechnolegau dyfeisgar megis deallusrwydd artiffisial. Ein nod yw pontio’r bwlch rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisi a bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion llunwyr polisi penodol, gan roi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn y fformat a’r amserlen sydd ei hangen arnyn nhw.

“Mae ein Consortiwm wedi datblygu cyfres o fecanweithiau arloesol i wneud hynny - Canolfan Polisi Ystwyth, Platfform Net Zero Futures, a Labordy Dulliau Creadigol - pob un wedi’i deilwra i gynhyrchu atebion clir a chadarn i gwestiynau brys.”

Ychwanegodd Cyd-arweinydd y Ganolfan, yr Athro Heiko Balzter o Brifysgol Caerlŷr:

“Dim ond trwy gynnwys ystod eang o randdeiliaid drwy gydol y broses y gellir creu llwybr teg, realistig tuag at sero net yn y sector defnydd tir - i ddarparu eu harbenigedd, rhannu gwaith y Ganolfan a sicrhau bod ei gynigion yn gweithio’n ymarferol yn ogystal ag yn ddamcaniaethol.

“Mae ein consortiwm yn adlewyrchu hyn - yn amrywio o’r rhai sydd ar flaen y gad ym maes modelu newid hinsawdd i grwpiau ffermwyr, sefydliadau cynghori, sefydliadau anllywodraethol a chydweithfa gelfyddydol. Bydd eu hystod a’u proffil yn sicrhau bod effaith y Ganolfan yn ymestyn drwy’r gymdeithas gyfan - fel y gall pawb gymryd rhan yn nhrawsnewid defnydd tir - o’r bwyd y maen nhw’n ei brynu i’w penderfyniadau o ran gwyliau, tai a buddsoddi.”

Wrth wraidd yr her mae deall sut y gellir gwireddu’r trawsnewid a rhagweld effaith dulliau gweithredu arfaethedig yn ôl canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd lluosog.

Elfen ganolog o ddull gweithredu’r Ganolfan fydd datblygu senarios sero net credadwy ac arloesol a llwybrau cysylltiedig - offer newydd yn seiliedig ar fethodolegau modelu uwch a all ragweld effeithiau gwahanol ymyriadau polisi ar draws amrywiaeth o fetrigau.