Ymchwil a Menter

Mae IBERS yn darparu amgylchedd deallusol lle gall ymchwilwyr rannu ac archwilio syniadau ar draws disgyblaethau gwyddorau amaethyddol, tir glas, gwledig, amgylcheddol a biolegol traddodiadol, a lle gallant weithio mewn timau amlddisgyblaethol sy’n tynnu oddi ar yr ystod eang o wybodaeth arbenigol a geir ym meysydd gwyddorau bywyd a chymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae IBERS yn cyflawni gwaith gwyddonol arloesol a safonol, sydd o bwys rhyngwladol. Mae’r meysydd yn cynnwys genomeg planhigion, anifeiliaid a microbau; bioleg a ffisioleg celloedd; geneteg a bridio planhigion ac anifeiliaid; atgenhedliad anifeiliaid; amaethyddiaeth; parasitoleg; ecoleg; gwyddorau cymdeithasol a phrosesau esblygiadol; ynghyd ag arbenigedd integreiddiol sy’n gynsail i ddulliau systemau a chyfannol.


Rhannwyd gwaith ymchwil IBERS yn ôl tair thema graidd a nifer o grwpiau ymchwil cydberthnasol.

Themâu

  • Amrywiaeth Genomau a Bridio Planhigion
  • Bioadnewyddion a Newid Amgylcheddol
  • Gwyddorau Anifeiliaid a Microbau

Menter

Mae partneriaeth gyda’r sector diwydiannol a phreifat yn helpu i sicrhau bod ymchwil IBERS yn parhau’n atebol ac yn berthnasol i anghenion diwydiannol. Gall gwyddonwyr entrepreneuraidd IBERS fanteisio ar gyfleusterau a chefnogaeth sydd gyda’r gorau yn y byd i ddatblygu cynghreiriau a chysylltiadau strategol gyda diwydiant:

  • Ymchwil a Nawdd Strategol
  • Rhaglen datblygu cyfalaf
  • Adnoddau
  • Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY)


Prif bartneriaid cyllido IBERS:

funding bodies - new WG logo

Grwpiau Ymchwil

Trefnir gweithgaredd o amgylch nifer o grwpiau rhyng-gysylltiedig sy’n cynnwys:

Systemau Anifeiliaid
Bioleg Egni Cnydau
Rhyngweithiad Planhigion a Microbau yn y Rwmen
Effeithlonrwydd Defnydd o Faetholynnau Dŵr
Dulliau Bridio Planhigion Cyhoeddus Da
Dulliau Bridio, Bioleg Atgynhyrchu, Epigeneteg
Bioleg Ecosystemau
Bioleg a Ffisioleg Organebau Cyfain
Diet ac Iechyd
Parasitoleg
Gwyddor a Pholisi Gymdeithasol
Grŵp Ffisioleg Ficrobaidd
Ecoleg 

Gwybodaeth bellach

Ymchwil uwchraddedig yn IBERS

Cyhoeddiadau IBERS