Polisi Prifysgol Aberystwyth ar Ddefnyddio Deunyddiau Hawlfraint
Mae Prifysgol Aberystwyth yn parchu hawlfraint pawb sydd ynghlwm wrth greu a dosbarthu deunyddiau hawlfraint, megis cerddoriaeth, ffilmiau, meddalwedd a gweithiau llenyddol ac artistig eraill a grewyd gan awduron
Ni chaiff staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wneud, storio, trosglwyddo, na darparu copïau anghyfreithlon o’r cyfryw ddeunyddiau hawlfraint ar systemau, offer na chyfryngau storio’r Brifysgol.
Ni chaiff staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth lwytho, storio na darparu copïau anawdurdodedig o ddeunyddiau hawlfraint trwy gyfrwng rhwydwaith ardal leol y Brifysgol na’r rhyngrwyd trwy ddefnyddio systemau, offer na chyfryngau storio’r Brifysgol.
Ni fydd staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cynorthwyo nac yn cymryd rhan mewn unrhyw weithred sy’n tarfu ar y cyfryw ddeunyddiau hawlfraint trwy weithredu neu gysylltu â rhwydwaith tebyg-i-debyg, gan ddefnyddio systemau neu offer y Brifysgol.
Dylai unrhyw amheuon ynghylch a all aelod o’r staff neu fyfyriwr gopïo neu ddefnyddio deunyddiau hawlfraint mewn ffyrdd a gynhwysir yn y polisi hwn gael eu trafod gyda’r Rheolydd Gwarchod Data a Hawlfraint cyn mynd ymlaen.
Mae unrhyw weithgareddau neu ddeunyddiau sy’n torri’r polisi hwn yn agored i gael eu symud, terfynu a/neu fforffedu yn syth.
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy’n torri’r polisi hwn yn agored i gael eu disgyblu fel y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau. Gall y cyfryw ddisgyblu gynnwys atal o’u swydd neu ddiswyddiad.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon: Dr Jonathan Davies,
Rheolwr Gwarchod Data a Hawlfraint,
Gwasanaethau Gwybodaeth,
Llyfrgell Hugh Owen,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3DZ
Ffôn: 01970 628592 Ffacs: 01970 622404 Ebost: infocompliance@aber.ac.uk