Llyfrgell Thomas Parry

Mae Llyfrgell Thomas Pary ar Gampws Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Yn bennaf mae'n gwasanaethu anghenion dysgu ac addysgu'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Mae prif ddyletswydd y llyfrgell i'r Brifysol, ond mae hefyd yn ceisio gwasanaethau pawb sydd â diddordeb academiadd mewn unrhyw un o'r meysydd hyn, yng Nghymru a thu hwnt, ac mae'n croesawu ymholiadau a chwiliadau o unrhyw le yn y byd. Darperir amrywiaeth o adnoddau i'ch helpu â'ch astudiaethau ac i'ch helpu i ymlacio mewn tawelwch.

Oriau agor

Oriau agor estynedig ar benwythnosau yn ystod cyfnod arholiadau Semester 2
Yn ystod y penwythnosau 19/20 Mai a 26/27 Mai 2012 bydd Llyfrgell Thomas Parry ar agor o 12pm-4pm ar y Dydd Sadwrn a’r Dydd Sul.

Gwyliau Banc 2012:
Bydd GG a phob llyfrgell ar gau ar ddydd Llun, Mehefin 4ydd, dydd Mawrth, Mehefin 5ed a dydd Llun, Awst 27 2012.

Yn ystod y tymorGwyliau
Llun i Iau 09:00 - 18:00
Gwener 09:00 - 17:30

Llun, Mawrth, Iau, Gwener
09:00 - 17:30
Mercher 09:00 - 17:00

Casgliadau

Mae gan y llyfrgell gasgliad unigryw o ddeunyddiau o statws rhyngwladol ar lyfrgellyddiaeth a gwyddor gwybodaeth, Llyfrgell arbennig i Blant, deunyddiau sy'n ymwneud â rheoli adnoddau gwleidg, gan gynnwys adnoddau amaethyddol a gwyddor ceffylau a rhwyfaint o ddeunydd ar gyfer astudiaethau cyfryngau, cyfrifiaduron a rheoli.

Casgliad Addysg Gynradd

Casgliad o adnoddau ar gyfer myfyrwyr ar gwrs TAR Cynradd Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru yn bennaf, ond gall unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Phrifysgol Aberystwyth hefyd fenthyca’r deunydd. Bydd rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Mangor gael Cerdyn Aber cyn gallant fenthyca adnoddau o’r casgliad.


Mae'r casgliadau arbennig yn cynnwys:

  • Casgliad Appleton
  • Casgliad Horton
  • Casgliad Oliver Simon

Ceir gwybodaeth am fenthyca o gasgliadau'r llyfrgell ar y dudalen hon

Cynllun llawr

  • Cynllun Llawr Llyfrgell Thomas Parry

Adnoddau

  • Bysellfwrdd Alphasmart
  • Peiriant newid mân
  • Cyfrifiaduron
  • Adnoddau gwylio DVD/Fideo
  • Ardal Astudio i grwpiau
  • Cymorth a chefnogaeth
  • Ystafell astudio i grwpiau
  • Cloeriau
  • Eiddo coll
  • Chwyddwydrau
  • Papurau newydd - cenedlaethol a rhanbarthol
  • Catalogau Ar-lein
  • Dolen Sain Gludadwy
  • Argraffu a Llungopïo
  • Llwythwr credyd argraffu
  • Gwerthu nwyddau traul
  • Sganio
  • Peiriant hunan fenthyca
  • Rhwymo crib hunanwasanaeth
  • Ardaloedd astudio tawel
  • Peiriant bwyd
  • Wi-Fi

Adnoddau hygyrchedd yn Llyfrgell Thomas Parry

  • Mae lleoedd parcio i bobl anabl ger y brif fynedfa i Thomas Parry sy'n hygyrch i bobl mewn cadair olwyn trwy ardaloedd gwastad amrywiol neu rampiau.
  • Mae toiled anabl yn y brif lyfrgell.
  • Mae dolen sain ar gael yn y Ddesg Ymholiadau.
  • Mae lleoedd parcio i bobl anabl ar gael ger prif fynedfa Thomas Parry sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn trwy amrywiol ardaloedd gwastad neu rampiau.
  • Mae toiledau i’r anabl ar gael yn y brif lyfrgell.
  • Mae dolen sain ar gael wrth y Ddesg Ymholiadau.
  • Trosluniau Lliw a Chwyddwydrau ar gael i’w benthyca o’r ddesg ymholiadau.
  • Gallwn drefnu i nôl a dosbarthu deunyddiau darllen neu ddeunyddiau eraill yn y Llyfrgell, yn barod i’w casglu neu ar gyfer astudiaeth bersonol.
  • Mae ardal Cerdyn Gwyrdd arbennig i ddefnyddwyr Cerdyn Gwyrdd cofrestredig

Cysylltwch â ni os hoffech gael taith dywysedig o amgylch yr adnoddau, trafod Cynllun Personol Gadael Adeilad ar Frys neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol.