Trosolwg o’r Amserlen Ganolog ar gyfer Adnewyddu Ystafelloedd Haf 2014

Cyffredinol

Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod mae’r prosiect i adnewyddu ystafelloedd CTT Llandinam a Darlithfa A12 Hugh Owen ar waith.

Yn unol â’r gwaith adnewyddu a wnaed yn Hugh Owen ac ystafelloedd CTT Llanbadarn yn 2013 bydd y canlynol yn cael ei wneud yn yr holl ystafelloedd:

  • Uwchraddio cyfarpar clyweled
  • Goleuadau newydd y gellir eu rheoli
  • Gorchudd llawr newydd
  • Ailaddurno
  • Llenni blacowt newydd
  • Caiff nenfydau newydd eu gosod lle bo angen
  • Arwynebau ysgrifennu
  • Bydd yr holl gadeiriau yn rhai â seddi meddal y gellir eu haddasu, ar wahân i A6 a Hugh Owen A12, sy’n ddarlithfeydd traddodiadol.
  • Lle bo angen bydd offer gwresogi ac awyru newydd yn cael ei osod
  • Gwell cyswllt diwifr

 Mae’r offer clyweled yn cynnwys:

  • Darllenfa â brandio Prifysgol Aberystwyth y gellir addasu ei huchder. Bydd y rhain yn union yr un fath â’r rhai a osodwyd yn Hugh Owen a Llanbadarn yn 2013 ac eithrio A12, A6 a B23 (gweler isod)
  • Sgrin ryngweithiol aml-gyffwrdd ar y ddarllenfa
  • Cyfrifiadur PC
  • Taflunio data neu sgrin wastad fawr. Lle bo’n briodol caiff taflunio deuol ei ddarparu.
  • Camera dogfennau
  • Microffonau ar gyfer cipio darlithoedd a lle bo angen chwyddo lleisiau
  • Chwyddo sain rhaglen
  • Peiriant DVD Blu-ray
  • Dolenni sain
  • Rheolyddion goleuadau ar y ddarllenfa

 

Yr ystafelloedd

Llandinam B23

Dyma’r cysyniad cyffredinol ar gyfer Llandinam B23.

                        Y prif bwyntiau:

  • Ceir rhai mân newidiadau i’r cynllun hwn ond y cysyniad cyffredinol yw bod y ddarllenfa’n cael ei symud o du blaen yr ystafell i bwynt sydd hanner ffordd rhwng y drysau. Mae hyn yn gosod y darlithydd mewn lleoliad gwell yn yr ystafell.
  • Bydd dau daflunydd ar hyd y wal addysgu (y wal gyda drysau)
  • Bydd y sgriniau cyfrifiadur yn gallu plygu a’u cadw o fewn y ddesg. Mae sawl mantais i hyn:
  1. Bydd yr ystafell yn un amlbwrpas h.y. ystafell cyfrifiaduron, neu ystafell draddodiadol neu gyfuniad o’r ddau
  2. Mae cynllun cefn wrth gefn y desgiau’n galluogi sefydlu grwpiau cydweithredol.
  3. Mae’n cynnig gwell cynllun ar gyfer arholiadau
  • Gellir gosod cynnwys y cyfrifiadur addysgu ar yr holl sgriniau cyfrifiadurol. Mae gan y feddalwedd hon swyddogaethau eraill a chaiff hyfforddiant ei ddarparu (gweler isod)
  • Bydd trefn newydd o drin aer yn cael ei osod
  • Nenfwd a goleuadau newydd i’w gosod
  • Gwell darpariaeth sain
  • Bydd gan bob desg allfa bŵer ddwbl 13 amp a phwynt gwefru USB ar gyfer cysylltu dyfeisiadau symudol
  • Ffenestri newydd i’w gosod

Roedd hon yn ystafell anodd wrth geisio diwallu’r gofynion delfrydol oherwydd ei siâp a’r nifer yr oedd angen eu cynnwys ynddi. Y cyfaddawd amlycaf yw bod y desgiau bellach ar ongl o 90⁰ i’r wal addysgu ond penderfynwyd mai’r cynllun cyffredinol hwn, sy’n galluogi defnyddio’r ystafell mewn nifer o ffyrdd gwahanol, yn hytrach na’r cynllun defnydd sengl blaenorol, yw’r cynllun mwyaf priodol.

Y feddalwedd sy’n cael ei gosod yn yr ystafell i ganiatáu rhannu cynnwys yw LanSchool. Ceir Tiwtorialau fideo yma http://www.lanschool.com/support/tutorials a fersiwn PDF yma http://lanschool-docs.s3.amazonaws.com/ls78/LanSchool78%20User%20Guide.pdf

Bydd hyfforddiant mewnol hefyd ar gael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.

 

Llandinam B20

Mae’r ystafell hon yn fwyaf addas ar gyfer dysgu cydweithredol. Bydd ynddi 4 sgrin fawr, dwy ar y wal addysgu hir ac un ar bob pen i’r ystafell.

Ffenestri newydd.

 

Llandinam B22

Mae hon yn ystafell draddodiadol ei chynllun gyda thaflunio deuol â byrddau gwyro a phlygu ar olwynion er mwyn gallu aildrefnu’n rhwydd os bydd angen.

Caiff ffenestri newydd eu gosod.

 

Llandinam G3

Mae hwn yn gynllun Troi a Dysgu sy’n galluogi dysgu traddodiadol neu mewn grwpiau. Bydd y gwyredd cyfredol yn cael ei gadw.

 

Llandinam G3a

Mae hon yn ystafell draddodiadol gyda sgrin wastad fawr a byrddau gwyro a phlygu ar olwynion er  mwyn gallu aildrefnu’n rhwydd os bydd angen.

Cynllun enghreifftiol.

 

Llandinam A6

Bydd yr holl seddi ac ardaloedd desgiau yn narlithfa A6 yn cael eu hamnewid. Bydd hyn yn darparu amgylchedd llawer mwy cyfforddus, a bydd lled y ddesg yn ddyfnach ar gyfer gosod padiau ysgrifennu a dyfeisiadau symudol.

Caiff taflunio deuol a gwell sain eu gosod.

Y bwriad yw agor mynedfa newydd o’r ardal rhwng IBERS ac A6 yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Nid oes graffeg ar gyfer A6.

Llandinam C63, C64 a C65

Bydd byrddau hirsgwar gwyro a throi ar olwynion yn cael eu gosod yn yr ystafelloedd hyn.  Bydd modd newid cynllun yr ystafelloedd i gyd-fynd ag anghenion y dosbarth. Caiff y waliau hir eu defnyddio fel wal addysgu fydd yn caniatáu gwell defnydd o’r gofod.

Bydd taflunio deuol yn C63 a C64. Bydd sgrin wastad fformat mawr yn C65.

Nid oes graffeg ar gyfer yr ystafelloedd hyn.

Cyntedd Llandinam

Mae’r graffeg isod yn cynnig syniad sylfaenol o’r newidiadau arfaethedig i’r cyntedd. Bydd nenfwd a goleuadau newydd yn cael eu gosod. Y gobaith yw y bydd y cynllun newydd yn adfywio’r ardal ac yn ei gwneud yn lleoliad mwy deniadol a phoblogaidd i fyfyrwyr gyfarfod ac astudio.

 

Bydd y byrddau a welwch chi’n galluogi myfyrwyr i gysylltu hyd at 4 o ddyfeisiau symudol ar yr un pryd â sgrin fawr ar ben pob desg a bydd modd newid rhyngddynt yn rhwydd gyda rhyngwyneb botymau. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer gwaith grŵp ac yn rhywbeth mae myfyrwyr wedi gofyn amdano.

 

Bydd celfi ar ddull pod yn yr ardal ganolog. Nid yw’r union gynllun wedi’i gadarnhau eto ond mae’r graffeg isod yn dangos y cysyniad.

 

 

 

Hugh Owen A12

A12 yw ein darlithfa fwyaf ac mae tua 22 o flynyddoedd oed. Caiff y ddarlithfa ei hadnewyddu mewn dau gam. Y rheswm am hyn yw’r galw am yr ystafell a’r amserlenni.

Cam 1 haf 2014

Cwblhawyd y rhan hon ar Fedi 1af 2014

Bydd trefn y seddi’n aros fel y mae ar hyn o bryd ond yn ôl pob tebyg caiff ei newid o fewn tair blynedd. Bydd seddi newydd yn cael eu gosod yn y blaen ac yn y cefn fydd yn gynnydd o 35 o ran nifer, a bydd hyn o gymorth i rai o’n dosbarthiadau mwyaf.

Caiff y cyfarpar clyweled ei uwchraddio, ond yn anffodus mae siâp blaen yr ystafell yn golygu nad oes modd cael taflunio deuol. Caiff darllenfa newydd y gellir addasu ei huchder ei gosod yng nghanol yr awditoriwm. Bydd carped ac addurniadau newydd yn cael eu cynnwys.

Cam 2 Rhagfyr 2014

Bydd y cam hwn yn bennaf yn ymwneud ag amnewid y goleuadau a rhoi mwy o reolaeth i’r darlithydd. Yn y cyfamser bydd rheolyddion y goleuadau wrth y switshis wal ger y fynedfa. Nid yw hyn yn ddelfrydol ond gan mai ond am gyfnod byr fydd hyn, gwerthfawrogir eich cydweithrediad.

 

Graffeg o’r ddarllenfa sydd i’w gosod yn A6, B23 a Hugh Owen A12

 

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â Pauline Ewan pae@aber.ac.uk