Gweithgareddau

Cymdeithasau

Aberystwyth Law & Criminology Journal

Mae Aberystwyth Law & Criminology Journal yn fenter gyffrous gyda’r nod o ddarparu llwyfan i arddangos gwaith o’r safon uchaf a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr. Yn ogystal, mae’r siwrnal yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr rhedeg y sefydliad.

I wybod fwy ewch i’n wefan https://auslcj.wixsite.com/aberlawjournal/adref Facebook https://www.facebook.com/auslcj/ neu Twitter https://twitter.com/AUSLCJ neu e-bostiwch auslcj@aber.ac.uk

Cymdeithas y Gyfraith

Nod Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth yw eich helpu i fwynhau eich amser yn Aberystwyth, a’ch paratoi chi hefyd ar gyfer gyrfa wedi hynny. Mae’r Gymdeithas yn trefnu nosweithiau cymdeithasol thematig bob pythefnos, sy’n rhoi cyfle i aelodau’r Gymdeithas fwynhau cwmni pobl debyg iddynt. Mae Cymdeithas y Gyfraith hefyd yn gyfrifol am drefnu uchafbwynt cymdeithasol y flwyddyn, sef Dawns Flynyddol y Gyfraith. Mae llu o fyfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd yn mynychu’r ddawns ffurfiol hon sy’n cynnwys pryd tri chwrs, siaradwyr gwadd a dawnsio hyd oriau mân y bore. Er mwyn helpu datblygiad eich gyrfa a hwyluso’ch dewis o yrfa, mae’r Gymdeithas yn trefnu teithiau i ffeiriau’r gyfraith (darpar gyfreithwyr dan hyfforddiant) ac i Ysbytyau’r Brawdlys yn Llundain (darpar fargyfreithwyr dan hyfforddiant).

I gael mwy o wybodaeth am y gymdeithas, anfonwch e-bost at scty71@aber.ac.uk; Facebook: Aberystwyth University Law Society

Y Gymdeithas Ymryson

Mae ymryson yn weithgaredd allgyrsiol hwyliog a chystadleuol sydd yn agored i bob myfyriwr er mwyn iddynt fedru cymhwyso a datblygu’r prif sgiliau ymryson, cyfreitha a throsglwyddadwy sydd eu hangen ar draws ystod eang o yrfaoedd cyfreithiol ac fel arall. I gael gwybod mwy, ewch i: Gwybodaeth am Gymdeithas Ymryson Aberystwyth

Y Gymdeithas Droseddeg

Mae’r Gymdeithas Droseddeg ar gyfer pawb sy’n astudio troseddeg, ar gynllun gradd sengl neu gyfun. Cewch groeso cynnes yn ogystal os ydych yn astudio am radd yn y gyfraith neu seicoleg. Rydym yn cynnal grŵp trafod ar gyfer ein haelodau bob dydd Gwener yn ystod y tymor am 1 o’r gloch yn Ystafell Gynadledda’r Gyfraith yn ogystal â nosweithiau cymdeithasol sy’n rhoi’r cyfle i bawb gwrdd a chael tipyn o hwyl. Cymerir nodiadau ym mhob darlith ar droseddeg er mwyn helpu myfyrwyr a fu’n absennol. Bydd gwefan y Gymdeithas Droseddeg ar gael yn fuan.

Innocence Project

Mae 'Innocence Project' Prifysgol Aberystwyth yn rhan o Innocence Network UK sy'n ceisio addysgu er mwyn gwrthdroi ac atal cam-gollfarnu pobl ddieuog.  Mae'r 'Innocence Project' yn un enghraifft yn unig o'r pwysigrwydd parhaus a roir ar addysg gyfreithiol ymarferol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Bydd myfyrwyr y Gyfraith sy'n rhan o'r prosiect hwn yn cael profiad ymarferol o weithio ar achosion troseddol go iawn o dan oruchwyliaeth cyfreithwyr a fydd yn eu cyfeirio tuag at ddod o hyd i dystiolaeth newydd a dadleuon sy'n dangos yn ffeithiol fod eu cleient yn ddieuog.  Mae cymryd rhan yn yr 'Innocence Project' yn ymdrin yn effeithiol ag un o'r heriau y mae myfyrwyr yn ei hwynebu ar ol graddio, sef fod yn rhaid iddynt gael profiad ymarferol er mwyn cael swydd, ond mae'n rhaid iddynt gael swydd er mwyn cael profiad ymarferol.  Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am yr yn Aberystwyth.