Cylchdaith y Llyfrgell Genedlaethol a’r Brifysgol (bws #03)

Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu ffyrdd cynaliadwy o deithio, lleihau’r traffig ar ein campysau a chydnabod y pryderon a fynegir gan ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi datblygu, ar y cyd â’r Llyfrgell Genedlaethol, y cyswllt trafnidiaeth cyhoeddus i, ac o gwmpas, campws Penglais. Bydd y llwybr bysiau a’r amserlen newydd yn rhedeg o 13 Medi 2012.

Bydd cylchdaith newydd y Llyfrgell Genedlaethol a’r Brifysgol yn darparu gwasanaeth drws i ddrws ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol ac yn darparu arhosfannau  ychwanegol mewn mannau allweddol ar draws campws Penglais. Bydd y llwybr newydd yn cynnwys cylchdaith rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol a champws Penglais bob 20 munud rhwng dydd Llun a dydd Gwener drwy gydol adeg y tymor. Bydd bysiau yn rhedeg o, ac i’r promenâd o 07.40 tan 22.45. Bydd y bws cyntaf yn cyrraedd y campws am 07.51 (yn y Ganolfan Chwaraeon, 07.52 yn y Brif Fynedfa, 07.53 yng Nghanolfan y Celfyddydau) a bydd y bws olaf yn gadael am 22.33 o Ganolfan y Celfyddydau. Bydd y bws olaf yn gadael y dref am 22.20 (promenâd) ac yn cyrraedd arhosfa mynediad Penglais am 22.32. Ceir manylion llawn yr amserlen drwy ddilyn y cyswllt isod.

Amserlen Bws #03

Bydd y llwybr bysiau drwy’r campws yn cynnwys dod i mewn i gampws Penglais gan ddefnyddio ffordd Gyswllt newydd y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd yr arhosfan cyntaf ger y Ganolfan Chwaraeon ar gyfer defnyddwyr y Ganolfan a’r sawl sy’n mynd i ran isaf y campws. Bydd yn parhau â’r daith wedyn i’r arhosfan bws presennol cyfagos i fynediad Rhiw Penglais. Bydd wedyn yn troi i’r dde yn ôl at Ganolfan y Celfyddydau a bydd yn aros ger y grisiau sy’n arwain i Ganolfan y Celfyddydau, Llyfrgell Hugh Owen ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn mynd ar hyd y brif ffordd gan droi i’r dde i lawr y rhiw lle y bydd yn aros eto ger y Ganolfan Chwaraeon, cyn gadael y campws drwy ffordd Gyswllt y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd modd i ddefnyddwyr ymuno â neu adael y bws yn unrhyw un o’r mannau hyn. Credwn y bydd yr arhosfannau ychwanegol hyn yn gwella’r mynediad i adnoddau’r Brifysgol ac y byddant o fudd gwirioneddol i’n myfyrwyr, staff ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Ceir map o lwybr y bws ar y campws drwy ddilyn y cyswllt isod.

Llwybr Bysiau newydd Penglais (#03)

Gobeithiwn wella ein trafnidiaeth gyhoeddus ymhellach ar draws yr holl gampysau. Rydym yn awyddus o hyd i sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl i gael mynediad i’n campysau, ac rydym o’r farn bod darparu mynediad i’r gwasanaeth bws mewn nifer o fannau allweddol ar draws y campws yn sicrhau hwylustod i’r sawl sy’n deithio ar droed ac yn ddewis arall dros y car i’r sawl sy’n byw’n lleol.

Er mwyn hwyluso taith y bws ar hyd y llwybr mae newidiadau wedi’u gwneud i lif y traffig ar waelod campws Penglais ac mae rhai mannau parcio wedi eu tynnu o fannau allweddol.

Mae’r ddogfen isod yn dangos y newidiadau sydd wedi’u gwneud i reolaeth y traffig ar y campws.

Rob Ratcliffe

Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Preswyl a Chroeso (Rheoli Adnoddau)