Teithio Mewn Car

Llun o ffordd fynyddig ger Aberystwyth.

Mae'n hawdd cyrraedd Aberystwyth mewn car. Mae golygfeydd hardd i'w gweld o ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn teithio.

O'r dwyrain mae'r A44 yn dringo trwy Fryniau Cambria ac i lawr at yr arfordir, ac o'r gogledd neu'r de mae'r A487 yn cynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion.

Cynllunio eich Siwrnai

Defnyddiwch Gynlluniwr Taith Prifysgol Aberystwyth i benderfynu sut yr ydych am gyrraedd yma:


Neu defnyddiwch unrhyw un o'r cynllunwyr taith a restrir yn yr adran Dolenni Perthnasol.

Arwyddion Cyfeiriadol

Llun o'r cap academaidd a ddefnyddir ar yr arwyddion cyfeiriadol.

Pan fyddwch yn agosáu at Aberystwyth yn y car fe welwch arwyddion yn eich cyfeirio at Brifysgol Aberystwyth; bydd y rhain yn eich tywys at Gampws Penglais.

Chwiliwch am yr arwyddion sgwâr melyn llachar sydd â llun o gap academaidd arnynt.

Cyngor i Bobl Sy'n Defnyddio Llywiwr Lloeren

Os ydych yn bwriadu defnyddio Llywiwr Lloeren i deithio i Aberystwyth, bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi:

LleoliadCod PostCyfeirnod Grid
Campws Penglais SY23 3BY 52.417739,-4.065292
Campws Llanbadarn SY23 3AS 52.411055,-4.054362
Campws Gogerddan SY23 3EB 52.433066,-4.016922
Yr Hen Coleg SY23 2AX 52.414664,-4.088252
Y Cod Post cywir ar gyfer yr Hen Goleg yw SY23 2AX ond nid yw’r rhan fwyaf o lyw-wyr lloeren yn cael canlyniadau manwl gywir wrth ddefnyddio’r cod post hwn.

Os ydych yn teithio i Gampws Penglais (prif gampws y Brifysgol) rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r arwyddion cyfeiriadol pan fyddwch chi'n agosáu at Aberystwyth.

Os ydych yn teithio i leoliad arall ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn argymell eich bod yn osgoi defnyddio isffyrdd, hyd yn oed os yw eich Llywiwr Lloeren yn dweud wrthych am eu defnyddio.

Parcio i Ymwelwyr

Yn ystod digwyddiadau arbennig megis Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld neu’r Seremonïau Graddio, bydd arwyddion a/neu staff y brifysgol ar gael i gyfeirio ymwelwyr i’r mannau parcio.

Os ydych yn ymweld â’r brifysgol ar fusnes arall, ewch i Swyddfa’r Porthorion ar Gampws Penglais i ofyn am drwydded barcio i ymwelydd.

Os ydych yn ymweld â Champws Penglais i ddefnyddio cyfleusterau eraill, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau, defnyddiwch y maes parcio Talu ac Arddangos.