Teithio o Bell

Teithio o Faes Awyr

AwyrenMaes Awyr Rhyngwladol Birmingham

O orsaf drenau’r maes awyr ei hun, daliwch y trên i Orsaf Birmingham New Street. O’r fan honno, mae trenau yn mynd yn rheolaidd i Aberystwyth, gan gymryd oddeutu tair awr a hanner.

Ar ddechrau’r tymor y Hydref, mae’r Swyddfa Ryngwladol yn cynnig gwasanaeth Cyfarfod a Chyfarch i fyfyrwyr Rhyngwladol o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham.

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

Gall teithwyr sydd â thocyn trên dilys ddal y bws gwennol yn rhad ac am ddim o derfynfa’r  Maes Awyr i orsaf drenau’r Maes Awyr ei hun. O’r fan honno, gallwch ddal trên i Orsaf Caerdydd Canolog ac yna cewch ddewis teithio i Aberystwyth ar fws neu ar drên.

Ar fws:

Daliwch y bws Arriva X40 sy’n rhedeg ddwywaith y dydd am 11:10yb a 6:15yh. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg yr holl ffordd i Aberystwyth, gan basio trwy Gaerfyrddin ac Aberaeron ac mae’n cymryd tua phedair awr.

Ar drên:

Daliwch drên i’r Amwythig lle gallwch ddal trên arall i Aberystwyth, gan gymryd tua phedair awr.

Maes Awyr Gatwick (Llundain)

Mae’r daith ar y trên o Gatwick yn cymryd tua chwe awr. Daliwch y trên uniongyrchol i Orsaf Victoria Llundain, yna defnyddiwch Linell Danddaearol Victoria i gyrraedd Gorsaf Euston Llundain i gael gwasanaethau cysylltiol i Aberystwyth drwy Birmingham New Street.

Neu gallwch fynd ar fws y National Express i Birmingham ac yna yn Birmingham newid i fws arall sy’n mynd â chi i Aberystwyth. Mae’r bws yn gadael maes awyr Gatwick am 11:35yb ac mae’r daith i Aberystwyth yn cymryd tua 8 awr a hanner i gyd.

Maes Awyr Heathrow (Llundain)

Bydd Trên Tanddaearol Llundain yn mynd â chi o Faes Awyr Heathrow i Euston er mwyn i chi ddal trenau rheolaidd i Aberystwyth.

Neu gallwch fynd ar fws y National Express i Birmingham ac yna yn Birmingham, newid i fws arall sy’n mynd â chi i Aberystwyth.  Mae’r bws yn gadael maes awyr Heathrow am 1:00yp a bydd y daith i Aberystwyth yn cymryd tua saith awr a phum munud i gyd.

Maes Awyr Luton (Llundain)

O’r maes awyr, ewch ar yr Express Coach i Orsaf Drenau Ganolog Milton Keynes (1 awr).  O’r fan honno daliwch drên i Orsaf Birmingham New Street ac yna trên arall i Aberystwyth.  Dylai’r daith gymryd tua 5 awr a 15 munud.

Maes Awyr Stanstead (Llundain)

Ewch ar y trên o Faes Awyr Stanstead i Orsaf Tottenham Hale ac yna ar y trên tanddaearol i orsaf Euston. O’r fan honno, daliwch drên i Orsaf Birmingham New Street, ac o’r fan honno daliwch drên i Aberystwyth. Dylai’r daith gymryd tua 7 awr.

Cysylltiadau Fferi

Abergwaun

Abergwaun yw’r porthladd ar gyfer fferïau sy’n cyrraedd o Rosslare. Os oes arnoch angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Aberystwyth, ewch ar y bws 412 i Aberteifi ac yna newidiwch i’r X50 i fynd â chi i Aberystwyth.

Caergybi

Caergybi yw’r porthladd ar gyfer fferïau sy’n cyrraedd o Ddulyn a Dun Laoghaire. Daliwch naill ai drên neu fws o Gaergybi i Fangor ac yna’r bws X32 i Aberystwyth os oes arnoch angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Eurostar

Mae’r trenau Eurostar o Baris a Brwsel yn cyrraedd St. Pancras, Llundain. Mae’n rhaid cerdded am tua phymtheg munud o’r fan honno i orsaf Euston i ddal trenau i Aberystwyth drwy Birmingham New Street.