Cynllun o Gampws
Mae gan Brifysgol Aberystwyth ddau gampws hardd. Tua milltir sydd rhwng y ddau gampws, ac y mae bysiau’n teithio’n rheolaidd rhyngddynt. Ar y ddau gampws, mae’r labordai, y llyfrgelloedd, a’r adeiladau dysgu a chymdeithasu o fewn cyrraedd i’w gilydd yn hawdd, ac o’u hamgylch mae digon o fannau agored a lawntiau a choed. Ar y campws hefyd mae neuaddau preswyl y myfyrwyr. Penglais yw’r prif gampws, lle mae’r rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol, yn ogystal â Chanolfan y Celfyddydau ac adeilad Undeb y Myfyrwyr. Cafodd ei ddatblygu ers y 1950au ac mae yno enghreifftiau o sawl arddull pensaernïol, yn eu plith adeilad Llyfrgell Hugh Owen ac adeilad y Gwyddorau Ffisegol a wobrwywyd am eu cynllun. Mae’r campws yn edrych i lawr dros dref Aberystwyth a bae Ceredigion, ac y mae’r golygfeydd yn odidog.