The Conversation

Gwefan newyddion a barn yw The Conversation, sy’n cael ei hysgrifennu gan academyddion sy'n gweithio gyda thîm o newyddiadurwyr proffesiynol i gyhoeddi darnau byr sy'n cynnig sylw academaidd i'r cyhoedd.

Cyrsiau hyfforddi Zoom

  • Dydd Mercher 24 Ebrill 2024, 2yp-4yp
    LLAWN

Cyrsiau hyfforddi fideo ar-lein

Mae pedwar cwrs hyfforddi byr ar-lein ar gael i ymchwilwyr, academyddion ac ymgeiswyr PhD gael mynediad iddynt pan fo’n gyfleus.

Nod y cyrsiau yw helpu academyddion i ddeall sut mae The Conversation yn gweithio, y cymorth golygyddol a ddarperir, ac i ddatblygu'r sgiliau i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd. 

Mae'r cyrsiau'n cael eu mapio i fframwaith datblygu ymchwilwyr Vitae ac felly gallant gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol.