Gogoniannau Graddio

Gyda’r Wythnos Raddio yn agosáu mae’n gyfle da i ni edrych ’nôl dros ddyddiau cynnar graddio yn Aberystwyth.

 

Cyn 1893, pan ddaeth colegau Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd ynghyd i ffurfio Prifysgol Cymru, roedd myfyrwyr Aberystwyth yn sefyll arholiadau Prifysgol Llundain, ond yn dilyn derbyn y Siarter Brenhinol roedd gan y brifysgol newydd yr hawl i ddyfarnu ei graddau ei hun. Y brif seremoni gyntaf i gael ei chynnal ar ôl hynny oedd yr un yn  Aberystwyth ar 26 Mehefin 1896 pan sefydlwyd y Tywysog Albert, Tywysog Cymru, yn Ganghellor Prifysgol Cymru. Cynhaliwyd y seremoni sefydlu mewn marquee a godwyd yn unswydd o flaen Neuadd y Dref, ond manteisiodd Aberystwyth i’r eithaf ar yr ymweliad Brenhinol a’i phwerau newydd drwy ddyfarnu gradd Doethur yn y Gyfraith ar y Tywysog; Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth ar ei wraig, y Dywysoges Alexandra, a Doethuriaeth yn y Gyfraith ar y Prif Weinidog William Ewart Gladstone a oedd wedi dod gyda’r pâr i Aberystwyth. Cynhaliwyd y seremoni hon ym Mhafiliwn y Pier a oedd newydd ei hadeiladu a’i hagor gan y Dywysoges ei hun. Gweithredwyd dyletswydd olaf y parti brenhinol am 4.30pm pan agorodd y Dywysoges neuadd breswyl newydd y Coleg i ferched, Neuadd Alexandra.

 

A gan mai hon oedd seremoni dyfarnu graddau gyntaf Prifysgol Cymru, roedd nifer o bethau roedd yn rhaid eu creu am y tro cyntaf, gan gynnwys y gwisgoedd seremonïol, fel yr adroddodd y Cambrian News:

 

Y Cycyllau Cymreig

Am y tro cyntaf yn hanes Cymru, gwelwyd cycyllau graddau Cymru yn cymysgu gyda chycyllau hen Brifysgolion, ond gan fod Gwalia yn dod yn hwyr i mewn i deulu addysg, gwelwyd fod y lliwiau cynradd sy’n gwneud y cycyllau yn wahanol eisoes wedi eu dewis, ond daeth y Fonesig Verney i’r adwy ac awgrymu y byddai sidanau wedi eu treiddio trwyddynt â lliwiau yn effeithiol iawn. Yn y seremoni gwisgodd Mr Gladstone ŵn doethur y gyfraith Prifysgol Cymru – gŵn ysgarlad ac iddo lewys grog, yr wyneb a sidan y leinin wedi eu treiddio â lliwiau glas a choch. Roedd y cwcwll o ddefnydd ysgarlad gyda sidan o’r un lliw, a chapan wedi ei orchuddio â melfed...Gwisgai Tywysoges Cymru ŵn llawn doethur cerddoriaeth Prifysgol Cymru, hynny yw, gŵn ysgarlad ac iddo lewys grog, yr wyneb a sidan y leinin â sidan lliw perl wedi ei dreiddio â thri lliw; a’r sidan lliw perl wedi ei osod ar forder o las tywyll. Roedd y cwcwll glas tywyll wedi ei leinio â sidan perl, a chapan, o siâp academaidd cyffredin, wedi ei orchuddio â melfed gyda thasel aur, er mwyn nodi urddas derbynnydd y radd.

 

Roedd gŵn y Canghellor (Tywysog Cymru) wedi ei wneud gan Ede and Son, Chancery Lane. Cafodd ei wneud o’r satin du gorau o ddamasg patrymog wedi ei orchuddio â les dolennog...Yn  addurniadau aur gŵn y Canghellor cyflwynir y ddraig Gymreig pum gwaith. Gorchuddiwyd y capan academaidd o siâp arferol â les melfed o aur gyda thasel aur. Roedd gŵn y Dirprwy Ganghellor yn un academaidd plaen o sidan rhib gyda llewys chwyddedig, dolennau o aur cordeddog a chapan wedi ei orchuddio â melfed gydag un bandyn aur. Gwisgai’r Is-ganghellor ŵn o ddefnydd ysgarlad a leinin, gyda gwawr ddyfnach o ysgarlad, a chwcwll o liain ysgarlad gyda leinin carlwm. Roedd gŵn y Trysorydd yn debyg i un y Dirprwy Ganghellor, ond gyda mwy o addurniadau aur. Gwisgai Warden yr Urdd ŵn du gyda llewys melfed dulas tebyg i ŵn proctor Rhydychen. Gwisgai’r Cofrestrydd ŵn tebyg i’r Dirprwy Ganghellor, ond â phleth ddu a’r llewysau wedi eu dal i fyny â chordyn du. (Cambrian News 3 Gorffennaf 1896).

 

Roedd cynrychiolwyr o golegau Bangor a Chaerdydd hefyd yn bresennol ar y diwrnod. Byddai wedi bod yn well gan garfan Caerdydd petai’r seremoni yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac roeddynt wedi dadlau eu hachos yn hir o blaid hynny, ond gan mai Aberystwyth oedd y fam Goleg penderfynwyd ei bod yn briodol bod seremoni sefydlu Canghellor cyntaf Prifysgol Cymru yn cael ei chynnal yn Aberystwyth.

 

A byddai’n rhaid i swyddogion colegau Bangor a Chaerdydd – ynghyd â’u myfyrwyr – wneud taith flynyddol i Aberystwyth am y chwe blynedd nesaf gan i’r seremonïau gradd gael eu cynnal yn y dref tan 1901.

 

Roedd yr ymweliadau hyn gan y sefydliadau iau wastad yn achos o falchder a llawenydd i fyfyrwyr Aberystwyth ac fe ymddengys i seremoni 1901, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Brenhinol y Pier ddydd Gwener 15 Tachwedd, fod yn achlysur anghyffredin o lawen, fel y nododd Thomas A. Levi, Athro Cyfraith Lloegr cyntaf Aberystwyth:

Pan gefais fy mhenodi yn Athro Cyfraith Lloegr cyntaf y Coleg, byddai’r seremoni raddio wastad yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn y Pier. O fewn blwyddyn gofynnodd y Senedd i mi weithredu fel Ysgrifennydd y Seremoni Raddio yn fy ail flwyddyn ynghyd â’r athro Marshall. Nid oedd Pafiliwn y Pier wedi ei gynllunio bryd hynny ar gyfer dangos ffilmiau, ond yr oedd yn neuadd fawr. Rwy’n dal i gofio rhuthr pobl y dref i’r seremoni a’r drafferth y caem i gadw allan bobl heb docynnau...Roedd y seremoni honno yn un ar y cyd i’r tri Choleg o Aberystwyth, Bangor a Chaerydd (nid oedd Abertawe yn goleg cyfansoddiadol bryd hynny). Ond mae’r digwyddiad rwyf am adrodd amdano yn ymwneud â myfyrwyr Aberystwyth yn unig. A bu iddo ganlyniadau a effeithiodd ar fyfyrwyr Aberystwyth yn unig.

 

Y diwrnod canlynol roedd golygfeydd anghyffredin yn y Coleg. Tra roeddwn yn gwneud fy ffordd i lawr Heol y Wig a Stryd y Brenin tua’r Coleg, roeddwn wedi sylwi ar dyrfa amheus o fyfyrwyr yn cydgerdded gyda mi i’r Coleg. Erbyn i mi gyrraedd drws y Coleg roeddynt wedi fy nghodi ar eu hysgwyddau a’m cario i’r rhwyllau haearn yn y Cwad.

 

Cyn i T.A. Levi barhau â’i atgofion, efallai y dylwn esbonio beth a olygir gan y cyfeiriad at y ‘rhwyllau haearn’ (neu gridiron) a’u harwyddocâd i weithgareddau’r Coleg ar y pryd. Doedd yn ddim i’w wneud â phêl-droed Americanaidd, ond yn hytrach cyfeiria at orchuddion haearn y ddau reiddiadur mawr sy’n rhan amlwg o’r Cwad.

 

Dyma a ddywedai un o Lawlyfrau Myfyrwyr y cyfnod amdanynt:

 

Ni fyddai adroddiad am fywyd yn y Cwad yn gyflawn heb gyfeiriad at yr arferiad hen a pharchus o “Gridding”. Ni ellir dweud nad yw myfyriwr yn fod gwerthfawrogol, a nesaf at ennill llwyddiant iddo’i hun, y mae’n ymhyfrydu yn llwyddiant eraill, a wastad yn cyfarch â llawenydd digymysg yr enillydd coronog ym maes addysg. Mae ‘gridding’ yn fynegiant diffuant, os swnllyd, o’r ymdeimlad hwnnw, ac un o benodau mwyaf diddorol hanes y Cwad yw pan fydd yr arwr hapus (sic) yn cael ei osod yn ddiseremoni ar y Grid, ac yn mynegi ei hapusrwydd (sic) oddi yno i fwynhad y giwed swnllyd islaw.

 

Ac ar y rhwyllau haearn hyn y gosodwyd yr Athro Lefi ac eraill:

 

Roedd yr Athro Sudborough (yr Athro Cemeg) a Mr Hibbert yno’n barod. Ac yr oedd yn rhaid i ni i gyd wneud areithiau o ryw fath. Dyw hi ddim yn ormodiaith dweud bod y myfyrwyr wedi bod yno o tua deg y bore tan dri y prynhawn. Fe fynnon nhw godi pawb, ac eithrio myfyrwyr, oedd yn gysylltiedig â’r Coleg i ben y rhwyllau. Codwyd y Prifathro Roberts a Syr Isambard Owen i fyny yn ddiseremoni. Felly pob porthor yn y Coleg. O’m safle ddyrchafedig ar y rhwyllau gallwn weld yr Athro Brough yn cael ei gario ar hyd yr oriel o’i ystafell breifat ar ysgwyddau nifer o fyfyrwyr. Dim ond am ychydig funudau y’n cadwyd ni yno a dim ond ychydig eiriau roedd yn rhaid i ni eu dweud. Y prif beth oedd cymryd y cyfan yn yr ysbryd cywir. Petai pawb wedi gwneud hynny mewn ysbryd hwyliog ni fyddai dim niwed wedi digwydd. Ond nid oedd y myfyrwyr wedi ystyried ymateb y rhai a gafodd eu cipio. Pan aeth tyrfa ohonynt i mewn i’r llyfrgell, yno roedd yr hen lyfrgellydd y Parch. Penllyn Jones. Roedd ef wedi dod gyda’r Prifathro Thomas Charles Edwards, ynghyd â Jones y porthor, o’r Bala pan sefydlwyd y Coleg. Roedd rhyw ddiniweidrwydd hynod yn perthyn iddo a ddifyrrai’r Prifathro tu hwnt i eiriau...

 

Pan welodd ef y dyrfa fawr yn dod i mewn i’r llyfrgell, gyda myfyriwr o’r enw Duerden ar y blaen, a phawb yn gwneud hwyl am ei ben, cafodd gryn ddychryn a chymerodd gyllell o’i boced a pharatoi i’w amddiffyn ei hun. Yn naturiol ystyriai’r myfyrwyr hyn yn jôc fawr ac aethant ymlaen yn llawn hwyl, gyda Duerden yn eu harwain. Nid wyf yn barod i ddweud beth yn union a ddigwyddodd, ond dywedir fod Penllyn Jones wedi agor y gyllell ac wedi trywanu Duerden yn ei gefn. Ond adroddwyd beth bynnag a ddigwyddodd i’r Cyngor a dyna ddiwedd ar yrfa Penllyn Jones druan. Roedd hi hefyd yn ddiwedd ar areithiau o’r rhwyllau. Pan gyfarfu’r Senedd...cytunwyd ar reol na châi neb siarad ar y rhwyllau o hynny ymlaen ac eithrio Llywydd Cyngor y Myfyrwyr, ynghyd â rhai swyddogion arbennig a chyn-fyfyrwyr a oedd wedi cyflawni rhyw ragoriaeth. Ac o’r adeg honno mae heddwch wedi teyrnasu o’r rhwyllau.

 

Nid yw’n glir a ddylanwadodd y digwyddiad hwn ar drefniadaeth graddio Prifysgol Cymru, ond o 1902 ymlaen amrywiwyd lleoliad y seremoni rhwng Bangor (1902), Caerdydd (1903), Aberystwyth (1904) ac yn y blaen. A chyn bo hir roedd yna newid hefyd yn lleoliad y seremoni yn Aberystwyth.

 

Yn 1907 cynhaliwyd y seremoni ar 22 Tachwedd yn y Coliseum, ac o ganlyniad i gythrwfl eithafol o du’r myfyrwyr daeth y gweithgareddau i ben cyn i bawb dderbyn eu graddau. Yn dilyn y digwyddiad hwn penderfynodd y Brifysgol y dylid cynnal y seremoni raddio ym mis Gorffennaf.

 

Ar ôl dyddiau’r Coliseum cynhaliwyd y Seremoni Raddio yn Neuadd y Plwyf, cyn symud yn 1923 i Neuadd y Coleg newydd a ddaliai 3,000 o bobl. Deng mlynedd yn ddiweddarach llosgwyd y Neuadd yn ulw, ac yng ngeiriau Thomas Levi, ‘ers hynny mae Neuadd y Brenin wedi disodli pob cystadleuaeth, ac oherwydd ei hehangder a’i safle rhagorol ar y Prom, mae’n annhebygol y caiff hi ei disodli am beth amser’. Ac roedd yr orymdaith ar hyd y Prom o’r Hen Goleg i Neuadd y Brenin yn ddigwyddiad blynyddol pwysig yn Aberystwyth, a atgyfnerthodd gysylltiadau’r dref a’r coleg am yn agos i 50 mlynedd.

 

Agorwyd y Neuadd Fawr ar Gampws Penglais yn 1970 ac o hynny ymlaen dyna lle mae’r seremoni wedi cael ei chynnal. Ac yno y bydd eto eleni, rhwng 18 a 21 Gorffennaf, yn dathlu, heb gythrwfl nac ymbleidio swnllyd, llwyddiant cenhedlaeth arall o fyfyrwyr Aberystwyth.

 

Ffynonellau

The Cambrian News

Memories of the College by Thomas Levi Part 2 – The Dragon, Vol. LXXII, No. 1, Michaelmas Term 1949, pp. 9-11

 

Elgan Davies