Dysgwch fwy am ein digwyddiadau

Diwrnod Agored

Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Agored ar Orffennaf 4ydd i gwrdd â'n staff a'n myfyrwyr a dysgu mwy am ein Prifysgol. Bydd modd mynd ar daith o amgylch y campws, ymweld â'n dewisiadau llety, cael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth a sut beth yw bywyd myfyrwyr yn Aberystwyth.

Oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol?

Cofrestrwch eich diddordeb i gael e-byst am unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill, gan gynnwys Diwrnodau Agored Ar-lein. Os na allwch ddod i Ddiwrnod Agored, neu os hoffech gyfle arall i ymweld â'n campws, gallwch hefyd gofrestru am Daith Campws.