Teithiau Campws

Taith Campws ar gampws Penglais.

Ynghyd â'n diwrnodau agored i israddedigion, mae ein Teithiau Campws yn gyfle i chi ddod i adnabod ein campws godidog, canfod ein cyfleusterau addysgu arobryn a dysgu mwy am fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cofrestrwch yma am ein Teithiau Campws

Beth i’w ddisgwyl?

Teithiau cerdded sy’n para tua awr yw’r Teithiau Campws. Gallwn ddangos lleoliad yr adrannau academaidd* i chi, rhai o’r cyfleusterau sydd ar y campws, ac un neu ddau o’r opsiynau llety sydd ar gael yma. Mae hyn yn gyfle gwych i chi gael blas ar leoliad y Brifysgol a’r ardal gyfagos.

*Ar hyn o bryd, nid yw’r teithiau’n cynnwys mynd â chi i’r adrannau academaidd i gwrdd ag aelodau o’r staff academaidd.

Cefnogi eich Ymweliad

Yn dilyn eich ymweliad bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Hawlio Treuliau Teithiau Campws y byddwn yn ei hanfnon atoch ar ôl eich ymweliad (cewch hawlio hyd at uchafswm o £75.00). Noder mai dim ond ymgeiswyr (y rhai sydd â chynnig ar gyfer mynediad ym mis Medi 2022) fydd yn gymwys i gael ad-daliadau.

Cwestiynau Pellach

Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth.

Beth i wneud yn y cyfamser?

Taith Campws Rhithwir

Os na allwch fynychu un o’r Teithiau Campws, edrychwch ar ein Taith Campws Rhithwir.

 

 

Os oes angen i ti ganslo, gwna hynny erbyn 5pm y diwrnod cyn y disgwylir i ti ymweld fan bellaf. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar teithiaucampws@aber.ac.uk neu 01970 621735.