Rhestr Wirio i Ymwelwyr

1. Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r Brifysgol am eich ymweliad?

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer y Diwrnod Agored felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru - cofrestrwch i fynychu.

2. Lawrlwytho Rhaglen

Cymerwch olwg ar Rhaglen Diwrnod Agored er mwyn trefnu eich diwrnod

3. Teithio i Aberystwyth...

Mae’r daith i Aberystwyth yn hawdd iawn. Gallwch ymweld â thudalennau  Cyrraedd y Diwrnod Agored i drefnu eich taith.

4. Manylion Cyrraedd

Y Ddesg Wybodaeth
Os dymunwch, gallwch fynd yn gyntaf i’r desgiau croesawu y tu allan i’r Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau (Adeilad 2). Yno gallwch godi Rhaglenni, Mapiau, Amserlenni Bws a’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae croeso i chi ddefnyddio'r Desgiau Croesawu fel man cyswllt  neu fan cyfarfod neu i adael negeseuon. Gall athrawon gasglu eu pecynnau gwybodaeth o’r Ddesg Wybodaeth.

Cofrestru
Bydd adrannau yn gofyn i chi gofrestru pan fyddwch yn ymweld â nhw, gallwch ymweld â’ch adran academaidd ryw dro yn ystod y Diwrnod Agored. Does dim rhaid i chi ymweld â’r adran yn gyntaf os nad ydych yn dymuno gwneud hyn.

Gwasanaeth Bws am Ddim
Mi fydd yno wasanaeth bws am ddim i chi ei ddefnyddio drwy gydol y diwrnod. Mi fydd y bysiau yn mynd i’r mannau pwysig yn Aberystwyth, gan gynnwys yr orsaf drenau, Yr Ysgol Gelf, y Dref, Llety Myfyrwyr a champws Llanbadarn. Cymerwch olwg ar y Rhaglen Diwrnod Agored i weld amserlen y bysiau.


5. Manylion Llety Dros Nos

Yn ystod Diwrnod Agored Gorffennaf mae llety ar gael i chi ar y Campws Penglais.

Am wybodaeth bellach ac i archebu lle cliciwch yma.

Yn ystod Diwrnodau Agored Hydref gallwch archebu lle mewn Gwely a Brecwast, gwesty bach neu westy yn nhref Aberystwyth a’r cyffiniau. Lawrlwythwch gopi o’r Daflen Llety Dros Nos i gael rhagor o wybodaeth.