Cofrestrwch i fynychu
Pam y dylech gadw lle i chi eich hun ym Mhrifysgol Aberystwyth!
Mae Diwrnodau Agored Prifysgol wedi’u llunio i roi syniad i chi o sut beth yw bywyd yn y brifysgol, a rhoi cyfle i chi siarad â’r tiwtoriaid a’r myfyrwyr, gweld y llety, a mynd o gwmpas y llefydd y byddwch yn gweithio, ymlacio ac yn chwarae ynddynt.
Mae Diwrnodau Agored yn ffordd berffaith o weld bywyd fel myfyriwr, ond mae’r llefydd yn gyfyngedig gan fod galw mawr am ddod i’n gweld. I wneud yn siŵr bod lle i chi, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dweud wrthym eich bod am ddod drwy gadw lle i chi eich hun.
Mae’n hawdd iawn cadw lle i chi eich hun ym Mhrifysgol Aberystwyth! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y ddolen yma, llenwi eich manylion, a byddwn yn gyrru rhaglen i chi a’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer eich ymweliad yn ystod y Diwrnod Agored.
Dyma rai o’r rhesymau pam y dylech gadw lle i chi eich hun:
- Yn bwysicaf oll, pan fyddwch yn archebu eich lle, mae wedi’i warantu, mae eich enw ar y rhestr a byddwch yn gallu dod ar ein Diwrnod Agored.
- Y llynedd, Prifysgol Aberystwyth oedd y brifysgol fwyaf poblogaidd yn y wlad a chafwyd cynnydd o 18% yn nifer y myfyrwyr. Dewch i brofi pam mai ni yw’r brifysgol sy’n tyfu gyflymaf a pham mai ni sydd ar frig y tabl Bodlonrwydd Myfyrwyr.
- Cadwch le i chi eich hun ac fe yrrwn e-bost atoch gydag unrhyw wybodaeth neu ddatblygiadau diweddaraf a allai effeithio arnoch, megis gwybodaeth am deithio, parcio neu unrhyw newidiadau hwyr i’r amserlen
Ein Diwrnodau Agored yw eich cyfle chi i gael syniad o fywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a thrwy gadw lle i chi eich hun gallwn eich helpu i wneud y diwrnod yn wir werth dod iddo. Mae ein Diwrnodau Agored eleni dydd Mercher, 6ed o Orffennaf, dydd mercher 14eg o Fedi a dydd Sadwrn 15fed o Hydref 2011.