Beth i’w ddisgwyl

Gan fod cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud ar Ddiwrnod Agored, y peth gorau yw cynllunio o flaen llaw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru, gan y byddwch wedyn yn derbyn rhaglen tuag wythnos o flaen y diwrnod. Gallwch wedyn ddefnyddio’r rhaglen i gynllunio’r diwrnod, ac i gael y gorau ohono.

Cyrraedd

Wedi ichi gyrraedd y campws, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw dod o hyd i’r desgiau croesawu yng nghyntedd Canolfan y Celfyddydau. Fe welwch lawer o bobl mewn crysau-T melyn, maen nhw yma i’ch helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y lle, felly peidiwch â bod ofn eu holi.

Desgiau Croesawu a’r Ffair Wybodaeth, Neuadd Fawr

Wrth y ddesg groesawu fe gewch becyn o nwyddau bach a gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys mapiau o’r campws a’r dref. Wedi ichi godi eich pecyn, mae rhwydd hynt i chi fynd i’r Neuadd Fawr. Yno bydd stondinau gan rhai adrannau a gwasanaethau, a dyma’ch cyfle i siarad â staff, a chasglu gwybodaeth benodol. Peidiwch ag anghofio holi am ein hamrywiaeth helaeth o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Sgyrsiau a Theithiau

Mae’r Brifysgol wedi trefnu cyfres o sgyrsiau a theithiau defnyddiol ar gyfer y diwrnod i’ch helpu i gael blas ar y campws, y cyfleusterau, yr adrannau a’r ardal. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyniadau unigol gan rai o’r adrannau, a sgyrsiau mwy cyffredinol ar themâu megis y broses dderbyn, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, a bywyd myfyriwr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa rai yr ydych am fynd iddyn nhw, ac ymhle y cânt eu cynnal ac am faint o’r gloch. Hefyd, drwy gydol y dydd bydd teithiau o gwmpas y campws wedi’u harwain gan fyfyrwyr. Caiff y rhain eu cynnal ar yr awr, bob awr o 10 y bore tan 3 y prynhawn, ac maent yn dechrau o flaen Canolfan y Celfyddydau. Mae’r rhain yn llawn gwybodaeth ac yn ddifyr, ac maent yn rhoi cyfle i chi gael sgwrs â rhai o fyfyrwyr y Brifysgol.

Adrannau

Bydd yr holl o’r adrannau ar agor ar y diwrnod, a byddant yn oed yn cynnal arddangosiadau, teithiau, darlithoedd byrion a sgyrsiau. Mae’r rhain yn amrywio o adran i adran, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i weld beth sy’n digwydd yn yr adran y mae gennych ddiddordeb ynddi – mae’r holl weithgareddau wedi’u rhestru yn rhaglen y Diwrnod Agored. Wedi ichi wneud cais i Brifysgol Aberystwyth, cewch wahoddiad i ddod i ddiwrnod ymweld yn eich adran, a bydd y diwrnod hwnnw yn rhoi cyfle manylach i chi weld cyfleusterau’r adran.

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Yn ystod y diwrnod, bydd cyfle i chi hefyd ymweld ag Undeb y Myfyrwyr, y llety, y llyfrgelloedd, y Ganolfan Chwaraeon,  y ffreuturiau a’r caffis. Ym mhob un o’r llefydd hyn bydd cyfle i chi siarad â staff a myfyrwyr, a chael gwybod am y cyfleusterau sydd ar gael yma yn Aberystwyth, ac yn bwysicach, am y gweithgareddau ‘allgyrsiol’ hynny sy’n rhan hanfodol o fywyd myfyriwr.

Amser Rhydd

Mae llawer o bobl yn teimlo ei bod yn werth ymweld â’r amryw gaffis a ffreuturiau i gael cinio, gan ei fod yn rhoi cyfle i chi flasu’r bwyd gwych sydd yma, boed chi’n ystyried llety arlwyo ai peidio. Mae croeso cynnes i chi ymweld â hwy.

Hefyd, efallai yr hoffech fynd am dro i’r dref. Mae Aberystwyth yn lle delfrydol i astudio, wedi’i leoli ar arfordir hyfryd gorllewin Cymru. Yn haul cynnes yr haf, gallwch astudio, ymlacio, cael parti a hwyl ar y traeth. Gallwch syrffio, nofio a chwarae yn y môr. Gallwch siopa fel y mynnwch yng nghasgliad diddorol y dref o siopau bwtîg a siopau’r stryd fawr. Gallwch fwyta mewn amryw o fwytai cosmopolitan, ddydd neu nos. Gallwch gymdeithasu, cael parti a chael diod tawel yn unrhyw un o 52 tafarn y dref a’r tri chlwb nos. Yn syml, gallwch wneud yn siŵr mai eich cyfnod yn y brifysgol yw blynyddoedd gorau eich bywyd!