Pam dylech chi fynychu Diwrnod Agored Prifysgol Aberystwyth…
Mae’r broses o chwilio am Brifysgol yn gallu bod yn frawychus. Mae’n hanfodol cael y cydbwysedd cywir rhwng dewis cyrsiau a bywyd cymdeithasol, fel y gwyddoch. Dyma un o’r prif resymau pam y dylech ymweld â’r Brifysgol.
Wrth ymweld â Phrifysgol Aberystwyth fe welwch fod ein myfyrwyr yn cael bywyd academaidd a chymdeithasol diogel, pleserus a bythgofiadwy… yn brawf o’r datganiad hwn mae’r ffaith ein bod flwyddyn ar ôl flwyddyn yn cael ein hethol fel y Brifysgol Orau o ran Boddhad Myfyrwyr.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod yn le da ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau gwneud y mwyaf o’u hastudiaethau, ond hefyd eisiau bywyd cymdeithasol i’r eithaf.
Mae Aberystwyth yn brifysgol sydd ar gampws, gyda phopeth y bydd ei angen arnoch yn agos, gan gynnwys y llyfrgell, ystafelloedd cyfrifiaduron ac ystafelloedd seminar, bwytai, cyfleusterau chwaraeon, ac wrth gwrs Undeb y Myfyrwyr. Er mwyn gwneud pethau yn haws, mae eich llety, sydd wedi ei warantu yn eich blwyddyn gyntaf, o fewn cyrraedd agos iawn i’r rhan fwyaf o’ch darlithoedd. Pan fydd angen ymlacio arnoch does dim lle gwell i wneud hynny nag Aberystwyth.
Mae ein myfyrwyr wedi ysgrifennu canllaw defnyddiol i’ch helpu i gael y mwyaf o Ddiwrnod Agored Prifysgol Aberystwyth. Mae’r canllaw hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer Diwrnodau Agored Prifysgolion eraill y byddwch yn ymweld â hwy (does ddim ots ganom ni beth y byddwch yn ei wneud gyda’r canllaw).
Cynhelir ein Diwrnodau Agored yn 2013:
- Dydd Mercher, 3ydd o Orffennaf,
- Dydd Sadwrn, 19eg o Hydref,
- Dydd Sadwrn, 26ain o Hydref.
Gadewch i ni wybod os yr hoffech ymweld ac fe wnawn gadw lle i chi.
Dolenni Defnyddiol
Gwybodaeth Ychwanegol