Sut i gael y gorau o’ch Diwrnod Agored yn y Brifysgol!

Mae ymweld â phrifysgol ar Ddiwrnod Agored yn gyfle gwych i chi gael atebion i’r holl gwestiynau sydd gennych am gynlluniau gradd, adrannau, llety, costau byw a llawer mwy. Mae Diwrnod Agored yn ffordd benigamp i chi gael rhyw syniad o’r lle fydd yn dod yn ail gartref i chi am y blynyddoedd i ddod.

I’ch cynorthwyo i ymdopi â diwrnod all fod yn brysur iawn, mae ein myfyrwyr wedi llunio canllawiau i helpu i wneud eich bywyd ychydig yn haws. Mae’r llawlyfr "Cael y Gorau o Ddiwrnodau Agored " yn amlygu nifer o ffyrdd y gallwch baratoi at eich ymweliad â’r brifysgol a rheoli’r ymweliad. Gallwch lawrlwytho’r llawlyfr llawn yma, ond i roi ryw syniad i chi o beth sydd ynddo, dyma rai enghreifftiau:

  • Dewiswch eich ymweliadau yn ddoeth – cyfyngwch eich dewisiadau i’r prifysgolion sy’n gweddu orau i’ch anghenion.
  • Paratowch - bydd y llawlyfr yn sôn am rai o’r pethau y dylech wybod amdanynt wrth gynllunio’ch ymweliad gan gynnwys:
    • Darllenwch am y brifysgol cyn mynd yno
    • Pam y dylech roi gwybod iddynt eich bod yn dod
    • Eich helpu i baratoi rhai cwestiynau ar gyfer tiwtoriaid a thywyswyr teithiau
    • Dewch â ffrind neu aelod o’r teulu – rhywun sy’n gallu cynnig barn ddiduedd am y brifysgol oherwydd efallai y byddwch chi’n canolbwyntio gormod ar y diwrnod i werthfawrogi’r darlun cyfan.
    • Gwnewch ddiwrnod iawn ohoni; peidiwch â rhuthro o gwmpas, byddwch yn treulio amser hir yn y brifysgol, felly ymchwiliwch yn iawn pan ddaw’r cyfle.

Mae Diwrnodau Agored yn ffordd berffaith o gael ymdeimlad o brifysgol, a bydd ychydig o baratoi yn gwneud eich ymweliad yn fwy boddhaol. Lawrlwythwch ein llawlyfr nawr a defnyddiwch yr wybodaeth i ddeall yn well beth ddylech chi ei wneud, ei ddweud a chwilio amdano wrth ymweld â phrifysgol.

Lawrlwythwch ein llawlyfr "Cael y Gorau o Ddiwrnodau Agored ".