Proffiliau Myfyrwyr - Diwrnod Agored
Fel y gwyddoch, mae diwrnodau agored yn gyfle perffaith i ddarganfod mwy am brifysgol. Rydym ni wedi bod yn trefnu diwrnodau agored ers blynyddoedd lawer. Rydym yn gwybod sut i ddarparu diwrnod gwych ar eich cyfer, er mwyn i chi gael profi bywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma beth sydd gan rhai o fyfyrwyr i’w ddweud am ein diwrnodau agored:
Emma Sullivan, Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu 
Bues i yma ar Ddiwrnod Agored a ges i gyfweliad byr a wnaeth i fi deimlo’n lot mwy sicr mae fan hyn oeddwn am ddod…Bydden yn bendant argymell Aberystwyth i eraill, yn enwedig os chise bod mewn cymuned clos Gymraeg.
Aled Huw, Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 
Cefais fy nhywys o gwmpas pan fues yma ar Ddiwrnod Agored, ac roeddwn yn teimlo’n gartrefol yn syth. Roeddwn yn hoff iawn o’r awyrgylch a’r campws. Felly, cyn gynted ag y cyrhaeddais gartre rhoddais Aberystwyth fel fy newis cadarn.
Rhian Jones, Ysgol Dyffryn Aman 
Des i ar y Diwrnod Agored er mwyn cael syniad o sut le yw Prifysgol Aberystwyth. Es i weld yr Adran Seicoleg, roedd yr adran yn ddiddorol iawn, a’r darlithwyr yn ‘top notch’! Mae adnoddau da iawn yma...mae popeth i’w weld yn ganolog ac yn hwylus iawn, ac roedd y staff i gyd yn garedig’.
Philippa Ashcroft, Ysgol Glan Clwyd
Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ac mae’r adnoddau yno yn anhygoel. Mae dod i Ddiwrnod Agored Aber wedi bod yn fantais fawr i fi wrth wneud penderfyniad, achos fe ges i gyfle i weld yr adran a siarad gyda’r tiwtoriaid, oedd yn llawer o gymorth.