Tynnu allan o'r Brifysgol
Os ydych yn ystyried ymadael â'r Brifysgol, darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus. Dylech gysylltu gyda'r adran(nau) perthnasol a Caryl Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth yn Swyddfa Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr (manylion cyswllt isod) am gyfarwyddyd ag am fanylion ynglyn ar dewisiadau sydd gennych. Os penderfynwch ymadael, beth bynnag fo'r rheswm, rhaid cwblhau ffurflen Rhoi'r gorau i'r Brifysgol a'i dychwelyd i'r Swyddfa Academaidd cyn gyned ag bo modd.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod dau fath o ymadael: ymadawiad parhaol neu dros dro. Efallai na fyddwch yn sicr ym mha gategori yr ydych. Os ydych am rhoi'r gorau i'r Brifysgol ddylech gysylltu a swyddfa Gwasanaethau Cymorth, e-bost student-support@aber.ac.uk neu ffoniwch (01970) 621761 er mwyn gael Ffurflen Tynnu Allan.
Tynnu Allan Yn Barhaol
Os ydych am ymadael yn barhaol dylech nodi eich bod yn dileu eich cofrestriad yn y Brifysgol o ganlyniad, ac yn ildio pob hawl a braint a geir trwy'r cofrestriad.
Tynnu Allan Dros Dro
- Os ydych am ymadael dros dro dylech nodi y bydd eich cais yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Gyfadran berthnasol a'r Senedd, a bydd fel arfer yn dibynnu ar gymeradwyaeth Pennaeth eich Adran. Rhaid ichi ymgynghori â Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Phennaeth/Phenaethiaid eich Adran(nau) Anrhydedd a'r Deon i gael eu llofnod cyn ymadael â'r Brifysgol. Bydd eich cofrestriad yn y Brifysgol, i fynychu dosbarthiadau nac i fyw mewn Neuadd Breswyl yn ystod y cyfnod hwn o atal cofrestriad.
- Bydd israddedigion fel arfer yn cael credydau am bob semester a gwblhawyd ganddynt yn foddhaol. Dylech nodi fod yna amser penodol ar gyfer cwblhau gradd Anrhydedd (fel arfer, pum mlynedd o'r cofrestriad cyntaf am raddau tair blynedd; chwe blynedd i gyrsiau pedair blynedd.
- Ar ôl ymadael â'r Brifysgol dros dro, bydd dychwelyd yn amodol ar gael cadarnhad ysgrifenedig fod gennych adnodau ariannol digonol i gwblhau'r cwrs.
- Os ydych yn ymadael am rhesymau meddygol, mae'n RHAID i chi gyflwyno tystiolaeth feddygol gyda'r Ffurflen Ymadael. Wrth ddychwelyd i'r Brifysgol bydd yn rhaid cyflwyno tystysgrif feddygol arall i ddangos eich bod yn abl i astudio, a bydd yn rhaid i Swyddog Meddygol y Brifysgol gymeradwyo honno. Mewn rhai achosion gall Swyddog Meddygol y Brifysgol ofyn am archwiliad meddygol.
- Ni roddir caniatâd am ymadael dros dro ar ôl diwedd darlithiau/seminarau yn mhob semester ac eithrio mewn achosion prin iawn, Os nad ydych wedi ymadael erbyn y dyddiadau hwnnw, fe'ch cofrestrir yn fyfyriwr/fyfyrwraig i arholiadau'r semester, a bydd y rheolau arferol ar gynnydd mewn grym.
Mae ffurflen Rhoi'r gorau i'r Brifysgol ar gael wrth Swyddfa Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Llawr Uchaf, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Campws Penglais student-support@aber.ac.uk rhif ffôn 01970 621761.
DYLAI POB MYFYRIWR SY'N YMADAEL Â'R BRIFYSGOL BETH BYNNAG FO'R RHESWM, ROI GWYBOD I'W NODDWYR ARIANNOL CYN GYNTED Â PHOSIBL. e.e. AALl a'r Cwmni Benthyciadau Fyfyrwyr (os yw'n berthnasol)