Ymadael yn Gynnar

Ffioedd Dysgu

Ar ôl i fyfyrwyr ymadael yn swyddogol o raglen astudio, mae’n bosibl y byddent yn gymwys am ostyngiad yn y Ffioedd Dysgu am y flwyddyn academaidd honno.  Cyfrifir y gostyngiad yn ôl dyddiad swyddogol yr ymadael. Gweler y siart isod am 2023/24.

Blaendaliadau rhyngwladol: Ni ellir ad-dalu blaendaliadau sy'n ofynnol gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n talu ffioedd cyn cofrestru os yw myfyriwr yn dewis tynnu'n ôl o raglen astudio cyn neu ar ôl cofrestru.

DYDDIAD YMADAEL

% o'r ffi sydd angen ei dalu

Tymor 1 - Rhwng 25ain Medi 2023 a 8fed Hydref 2023

 0%

Tymor 1 - Rhwng 9fed Hydref 2023 a 7fed Ionawr 2024

 25%

Tymor 2 – Rhwng 8fed Ionawr 2024 a 14eg Ebrill 2024

 50%

Tymor 3 - Rhwng 15fed Ebrill 2024 a 31ain Mai 2024

 100%

 Os bydd myfyriwr yn ymadael y Brifysgol ac wedi gwneud cais am Grant/Benthyciad ar gyfer y Ffioedd Dysgu, yna Cyllid Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am yr atebolrwydd Ffioedd yn yr achos hwn. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ymadael â’r Brifysgol ac yn talu’n breifat, bydd anfoneb neu ad-daliad yn cael ei anfon at y cyfeiriad cartref yn dibynnu ar yr hyn a dalwyd hyd at y dyddiad ymadael.  Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o gategorïau myfyrwyr llawn amser a rhan-amser, ond cysylltwch â fees@aber.ac.uk os dymunwch eglurhad pellach.

Ffioedd Llety

Ar ôl i gynnig o le yn llety’r Brifysgol gael ei dderbyn, bydd y myfyriwr yn atebol i dalu’r ffioedd sy'n ddyledus am gyfnod cyfan y cytundeb. Dim ond ar sail feddygol, lles neu academaidd cymeradwy y gall y Swyddfa Academaidd ganiatáu rhyddhau myfyriwr o’r contract. Fodd bynnag, hyd yn oed yn yr achosion hynny mae’r myfyriwr yn dal yn atebol i dalu’r ffi sy’n ddyledus am y cyfnod y buont yn byw yn y llety, neu’n gyfrifol am y llety, a chyfrifir y ffi hon ar gyfradd ddyddiol.

Bydd myfyrwyr sydd wedi gordalu ar ôl ymadael yn derbyn ad-daliad. 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Ymadael, ewch i’r adran Cwestiynau a Holir yn Aml ynghylch Ymadael ar wefan Cymorth i Fyfyrwyr.