Cofrestru'n Hwyr
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cofrestru gyda’r Brifysgol, ceir manylion am y trefniadau ar yr ‘Amserlen Cofrestru Israddedigion’.
Fodd bynnag, os na fydd yn bosibl i chi gofrestru erbyn hanner dydd Ddydd Mercher 26 Medi rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Academaidd, Hen Goleg. Gallwch anfon llythyr, neu e-bost at ugfstaff@aber.ac.uk, neu ffoniwch (01970) 622273.
Os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol ac yn dychwelyd yn hwyr rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Llety. Gallwch anfon llythyr, neu e-bost at accommodation@aber.ac.uk , neu ffoniwch (01970) 622984. Os nad ydych wedi rhoi gwybod o flaen llaw eich bod yn dychwelyd yn hwyr mae’n bosibl y bydd eich ystafell yn cael ei rhyddhau i fyfyriwr arall.
Mae nifer o oblygiadau os nad ydych yn cwblhau cofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau erbyn hanner dydd Ddydd Mercher 26 Medi:
• Bydd yn rhaid i chi fynd i’ch adran(nau) academaidd lle bydd aelod o staff yn rhoi cyngor i chi am eich dewisiadau modiwl. Ar ôl i chi ddewis y nifer gofynnol o gredydau ar gyfer eich cynllun bydd yn rhaid i chi wedyn gofrestru ar-lein o’ch ‘Ffeil Myfyriwr’;
• Os nad ydych yn cwblhau’r broses o gofrestru erbyn 5 o’r gloch ar brynhawn Mercher 3 Hydref bydd eich defnydd o’r cyfleusterau cyfrifiadurol a llyfrgell yn cael ei ddileu am 9 o’r gloch ar fore Iau 4 Hydref. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os ydych wedi cael caniatâd i gofrestru yn hwyr. Ni fydd modd datgloi eich cyfrif tan eich bod wedi cwblhau cofrestru;
• Dylech nodi na fydd eich benthyciad neu’ch bwrsariaeth yn cael ei dalu i chi nes i chi gwblhau cofrestru.